Dirgelwch clo o longddrylliad ar arfordir Cymru wedi'i ddatrys ar ôl dros 400 mlynedd

Clo Ann Francis

Mae dirgelwch clo a gafodd ei ganfod mewn llongddrylliad ar arfordir de Cymru wedi'i ddatrys ar ôl mwy na 400 mlynedd, diolch i dechnoleg sganio CT.

Mae arbenigwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi llwyddo i agor y clo pres, oedd wedi bod ar glo ers i'r llong Ann Francis gael ei dryllio ger Port Talbot ym 1583.

Drwy ddefnyddio technoleg sganio CT i edrych y tu mewn i'r clo heb ei ddifrodi, fe wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod mai 'ANCE' oedd y cod pedair llythyren oedd yn ei ddatgloi.

Roedd yr Ann Francis ar ei ffordd yn ôl o Sbaen ar 28 Rhagfyr 1583 pan gafodd ei dal mewn storm ffyrnig a'i chwythu ar y creigiau ar draeth Margam.

Fe wnaeth cargo'r llong aros yn gudd dan y tywod am ganrifoedd cyn i ddefnyddwyr datgelyddion metel ddechrau darganfod y gwrthrychau.

Image
Clo Ann Francis

'Dirgelwch pedair canrif'

Dywedodd Dr David Williams, cymrawd ymchwil yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, fod y dechnoleg wedi galluogi'r tîm i greu delwedd dri dimensiwn o fecanwaith y clo.

"Diolch i ficro-sganio CT fe lwyddon ni i weld tu mewn i'r clo heb ei ddifrodi," meddai.

"Drwy greu delwedd 3D manwl o'r mecanwaith, gallwn i weld sut oedd y rhigolau'n alinio â'r llythrennau, a datrys y cod."

Ychwanegodd mai dyma'r tro cyntaf i'r tîm ddefnyddio'r dechnoleg i archwilio clo mor hen.

"Ddim bob dydd fyddwch chi'n datrys dirgelwch pedair canrif!" meddai.

Beth oedd y clo yn ei ddiogelu?

Er bod y cod bellach wedi'i ddatrys, mae cwestiynau'n parhau ynghylch beth yn union oedd y clo yn ei ddiogelu.

Mae ymchwilwyr yn credu ei bod hi'n debygol ei fod yn cael ei ddefnyddio i gloi cist fach o eitemau gwerthfawr.

Cafodd y clo ei ganfod ger casgliad o geiniogau arian o Sbaen a dau bwysyn, ond mae'n bosib ei fod yn diogelu dogfennau neu eiddo arall sydd heb oroesi.

Dywedodd Alastair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru, fod cyflwr y clo a'i gysylltiad â'r llongddrylliad yn ei wneud yn arbennig.

"Wrth gwrs, ar ôl cracio'r cod rydyn ni'n dechrau meddwl a oedd y gair yn golygu rhywbeth i'r perchennog."

Image
Darnau Arian

Darganfyddiad ar y traeth

Peter Hughes oedd yn gyfrifol am ddarganfod y rhan fwyaf o'r celc wrth ddefnyddio datgelydd metel ar draeth Margam dros gyfnod o 21 mlynedd, rhwng 1996 a 2017.

Fe ddaeth y gwrthrychau i'r golwg ar ôl i stormydd a gwaith treillio symud haenau o dywod ar y traeth.

Dywedodd Mr Hughes ei fod wedi rhyfeddu at gyflwr y clo pan ddaeth o hyd iddo.

"Pan geisiais i symud cylchoedd deial y cyfunrif, prin oeddwn i'n gallu credu pa mor hawdd oedden nhw'n troi ar ôl 400 mlynedd," meddai.

Image
Chwiban Bosn
Chwiban bosn

Mae'r clo bellach i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, ochr yn ochr â gwrthrychau eraill o'r llongddrylliad, gan gynnwys ceiniogau aur prin o Sbaen a chwiban bosn (boatswain’s whistle).

Mae'r arddangosfa Trysorau'r Tonnau ar agor tan fis Mehefin 2027.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.