Florida: Cyhoeddi enw un o beilotiaid awyren fechan a blymiodd i'r ddaear

Peilot awyren Florida

Mae enw un o gyd-beilotiaid awyren fechan a blymiodd i'r ddaear yn Florida ddydd Sul wedi ei gyhoeddi gan ei theulu.

Roedd Nathalia Gadelha Filgueiras yn 20 oed ac yn dod o Sir Palm Beach.

Roedd wedi derbyn ei thrwydded hedfan tra'r oedd yn yr ysgol uwchradd a'i gobaith oedd bod yn beilot masnachol.

Fe aeth yr awyren i lawr ger cymuned Cresthaven yn Florida tua 12:50 gan arwain at farwolaeth y naw oedd yn teithio ynddi. 

Roedd yr awyren Learjet 60 wedi gadael Austin, Texas, ac ar ei ffordd i'r Bahamas.

Mae dadansoddiad o’r hediad yn awgrymu bod y jet yn plymio cannoedd o droedfeddi bob eiliad cyn taro'r ddaear.

Y gred yw bod rhew wedi effeithio ar yr awyren, a'i bod wedi hedfan i ganol storm cyn iddi blymio.

Mae fideo hefyd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n ymddangos fel pe bai wedi'i recordio gan gamera dashcam. 

Mae'r ffilm yn dangos cerbydau'n teithio ar hyd stryd mewn ardal breswyl, cyn i awyren blymio'n sydyn tuag at y ddaear bron yn fertigol a ffrwydro'n belen enfawr o dân. 

Nid yw'n glir eto pwy oedd y teithwyr ar y jet, ond mae pob un o'r naw person oedd ar ei bwrdd wedi cael eu lladd.

Yn ôl Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr Unol Daleithiau, Sean Duffy, mae'r hyn sydd wedi digwydd yn "drasiedi ofnadwy".

Ychwanegodd fod swyddogion o Weinyddiaeth Hedfan Ffederal yr Unol Daleithiau wedi cael eu hanfon i'r lleoliad. Fe fyddan nhw yn cynorthwyo Bwrdd Diogelwch Trafnidiaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau gyda'r ymchwiliad.

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd swyddogion fod 600 o drigolion yn cael eu symud o barc trelars gerllaw.

Cafodd difrod sylweddol ei achosi i seilwaith lleol, gan gynnwys pibellau dŵr, ac nid oes disgwyl i'r ffordd ailagor am o leiaf 30 diwrnod.

Llun: Threads

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.