Pump o fechgyn wedi eu trywanu mewn parti Calan Gaeaf
Mae pump o bobl yn eu harddegau wedi eu hanafu'n ddifrifol ar ôl cael eu trywanu mewn parti Calan Gaeaf, meddai'r heddlu.
Cafodd yr heddlu eu galw ychydig ar ôl 22:30 nos Sadwrn i Park Road yn Chandler's Ford, ger Eastleigh, yn Swydd Hampshire.
Mae Heddlu Hampshire yn credu bod grŵp o unigolion sydd heb gael eu hadnabod eto wedi llwyddo i fynd i mewn i eiddo lle roedd parti'n cael ei gynnal, cyn i'r trywanu ddigwydd.
Cafodd y pum unigolyn a anafwyd eu cludo i'r ysbyty. Mae tri ohonyn nhw'n fechgyn 16 oed a dau'n fechgyn 17 oed.
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth ac roedd cordon yn parhau yn ei le yn yr ardal ddydd Sul wrth i swyddogion ymchwilio.
Dywedodd llygad-dyst wrth y BBC ei bod wedi gweld rhywun yn rhedeg allan o'r tŷ gan weiddi ei fod wedi cael ei drywanu, gyda dau berson arall ar ei ôl.
