Casnewydd: Carcharu tri dyn am redeg puteindai ledled y DU

Puteindra Gwent

Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am redeg puteindai ledled y DU, ac am fasnachu pobl.

Roedd George Filip, 45 oed, Alexandru Moco, 27 oed, a Leonard Banica, 41 oed, wedi targedu 16 o fenywod aoedd yn gored i niwed, gan ddod â nhw i Brydain i weithio fel gweithwyr rhyw.

Gweithiodd Ionela Filip, 34 oed, gyda'r tri i redeg y rhwydwaith puteindra, gan ddefnyddio'r menywod er mwyn ennill arian iddynt eu hunain.

Plediodd pob un ohonynt yn euog i nifer o droseddau, ac fe gafodd y pedwar eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Ymchwiliad Casnewydd

Dechreuodd yr ymchwiliad i'w troseddau yn 2020 yn dilyn adroddiadau am ymddygiad amheus mewn eiddo yn Casnewydd.

Gweithiodd y grŵp gyda'i gilydd, gan ecsbloetio menywod a'u symud i leoliadau gwahanol yng Nghasnewydd, Birmingham a'r Alban mewn ymgais i gadw eu troseddau rhag cael eu canfod.

Cynhaliodd yr heddlu gyrch ar ddau eiddo yng Nghasnewydd, Gwent, a arweiniodd at yr arestio. 

Daethant o hyd i negeseuon o ddyfeisiau’r diffynyddion a oedd yn dangos hyd a lled y troseddu a’r gwyngalchu arian.

Roedd George Filip a Leonard Banica wedi gadael y DU cyn bod modd eu cyhuddo, ond cawsant eu harestio yn Ewrop a’u cludo’n ôl i’r wlad.

'Ffiaidd'

Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y grŵp hwn yn masnachu pobl, gan ecsbloetio menywod o wledydd Ewropeaidd eraill.

“Roedd yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn ffiaidd, gan drin pobl fel nwyddau.

“Daeth hyd a lled eu troseddoldeb yn amlwg o’u dyfeisiau, ac roedd hynny wedi galluogi Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyflwyno tystiolaeth gref.

“Er bod dau ddiffynnydd wedi gadael yr awdurdodaeth, buom yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith rhyngwladol i ddod â nhw’n ôl i’r DU i wynebu cyfiawnder.

“Gobeithio bod hyn yn rhoi neges gref bod y gweithgareddau troseddol hyn yn cael eu cymryd o ddifrif, ac na fydd ffiniau yn ein rhwystro rhag dod â diffynyddion gerbron y llysoedd.”

Cafodd George Filip ei ddedfrydu i wyth mlynedd a dau fis o garchar, gydag Ionela Filip yn derbyn dedfryd o dair blynedd o garchar wedi’i ohirio am dair blynedd.

Cafodd Leonard Banica ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis o garchar. 

Cafodd Alex Moco ei ddedfrydu i 15 mis o garchar.

Llun Heddlu Gwent: O'r chwith i'r dde - George Filip, Leonard Banica ac Alexandru Moco

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.