Gweinidogion yn addo gwella diogelwch ar-lein wedi hunanladdiad dyn 18 oed o'r de

cai davies

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad

Mae gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi addo cymryd camau i wella diogelwch ar-lein wedi hunanladdiad dyn 18 oed o'r de.

Bu farw Cai Davies o Bontypridd ar ôl anfon negeseuon at fenyw yr oedd yn credu iddi fod â diddordeb rhamantaidd ynddo.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn parhau i ymrwymo i wneud y byd ar-lein mor ddiogel ag sy'n bosibl i blant a phobl ifanc yn dilyn marwolaeth Cai, a laddodd ei hun ar ôl dioddef achos o sgam "sextortion" - math o flacmel sy'n cynnwys lluniau neu fideos anweddus.

Fe glywodd Llys y Crwner Ardal Canol De Cymru ei fod wedi cael ei dargedu gan sgamwyr yn gweithredu o Affrica.

Roedd y sgamwyr wedi ei fygwth gan ddweud os na fyddai'n anfon arian draw atyn nhw, y bydden nhw'n rhannu lluniau anweddus ohono at ei ffrindiau ac yn eu huwchlwytho i Youtube.

Cafodd Mr Davies ei ddarganfod yn crogi yn ei gartref ym Mhontypridd. 

Bu farw yn yr ysbyty fis Mehefin y llynedd.

Blacmel rhywiol

Daeth y crwner cynorthwyol Rachel Knight i gasgliad mai hunanladdiad oherwydd y ffaith ei fod wedi dioddef sgam blacmel rhywiol, yn ogystal ag achosion o straen yn ei fywyd personol, a arweiniodd at ei farwolaeth.

Yn dilyn y cwest, anfonodd y crwner adroddiad Rheoliad 28 ar atal marwolaethau yn y dyfodol at Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, yn amlinellu ei phryderon am sut y daeth Cai yn ddioddefwr i'r sgam.

Wrth ddisgrifio'r twyllwyr fe nododd y crwner fod y sgwrs wedi "troi'n rhywiol yn gyflym iawn" a bod y fenyw wedi gofyn am "ddelweddau personol" a gafodd eu defnyddio wedyn i'w fygwth.

"Cafodd y lluniau eu hanfon gan y sgamwr at o leiaf un o ffrindiau Cai ar Facebook.

"Fe dderbyniodd Cai swm enfawr o negeseuon a galwadau fideo gan y sgamwyr dros Facebook Messenger a Whatsapp mewn cyfnod byr iawn o amser yn mynnu am arian ganddo." esboniodd Rachel Knight.

Camau diogelu

Mewn ymateb, fe gyhoeddodd Ian Murrey, Gweinidog Diogelwch ar-lein y DU, nifer o fesurau diweddar y mae Llywodraeth y DU wedi eu cymryd i ddiogelu plant a phobl ifanc.

Mae'r rheini'n cynnwys gwneud cymryd cadw lluniau personol heb ganiatâd yn drosedd, ei gwneud hi'n ofynnol i lwyfannau cymdeithasol ddileu cynnwys o'r fath, a chyflwyno Deddf Diogelwch Ar-lein.

Ysgrifennodd Mr Murray: "Mae'r amgylchiadau sy’n ymwneud â marwolaeth Cai yn peri pryder mawr, ac rwy’n ddiolchgar i chi am dynnu fy sylw at y materion hyn.

"“Fel y gweinidog sy’n gyfrifol am y maes hwn, 'dw i a’r Llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i wneud y byd ar-lein mor ddiogel â phosibl i bawb, yn enwedig plant a phobl ifanc.” meddai.

Ymrwymiad

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod materion yn ymwneud â thelathrebu a gwasanaethau rhyngrwyd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU yn San Steffan, ond bod gweinidogion y Senedd wedi ymrwymo i leihau niwed ar-lein yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Anna Brychan, a’r Gweinidog Diwylliant, Heledd Fychan:

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn ogystal ag Ofcom am y risgiau diogelwch ar-lein presennol, a’u goblygiadau ar gyfer cyfrifoldebau datganoledig.

“Rydym yn ystyried goblygiadau cynigion deddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer cyfrifoldebau datganoledig, sy’n ymwneud â mynediad plant a phobl ifanc at gyfryngau cymdeithasol a rhai nodweddion ar-lein sy’n peri risg uchel.

“Byddwn yn parhau i ystyried tystiolaeth newydd sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys tystiolaeth am effeithiau posibl mesurau diogelwch ar-lein ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yn ogystal â’r risg o ganlyniadau anfwriadol.”

Adolygu canllawiau

Dywedodd y gweinidogion y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu’r canllawiau presennol, yn ogystal â datblygu canllawiau newydd ar ddiogelwch ar-lein ar gyfer ysgolion a rhaglen genedlaethol newydd ar ddiogelwch ar-lein.

“Bydd y camau hyn yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i gryfhau gwydnwch digidol, atal niwed a helpu pobl y mae camfanteisio ar-lein wedi effeithio i gael gafael ar gymorth priodol.

“Byddwn yn parhau i adolygu ein dull gweithredu wrth i’r dystiolaeth a natur y risgiau ar-lein ddatblygu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.