Actorion Rownd a Rownd ac Ysgol Glanaethwy 'i ddod â 1,500 o flynyddoedd o hanes Bangor yn fyw'
Bydd actorion y gyfres Rownd a Rownd a pherfformwyr Ysgol Glanaethwy yn "dod â 1,500 o flynyddoedd o hanes Bangor yn fyw" mewn cynhyrchiad arbennig yng Nghadeirlan y ddinas dros y penwythnos.
Bydd Gwenno Beech, sy'n chwarae rhan Mair yn Rownd a Rownd, a Macsen Wyn Hughes, sy'n chwarae Ioan, yn ymuno â chast o berfformwyr yn y sioe.
Fe fydd tri pherfformiad o Dinas Noddfa - City of Refuge yng Nghadeirlan Bangor ddydd Gwener a dydd Sadwrn, 30 a 31 Hydref.
Wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Cefin Roberts, bydd y sioe "yn tywys y gynulleidfa drwy hanes Bangor, o'r gymuned a sefydlwyd gan Ddeiniol Sant yn y chweched ganrif hyd heddiw."
Mae'r cast hefyd yn cynnwys Cedron Siôn, cyn-actor Rownd a Rownd ac un o gyn-enillwyr Gwobr Bryn Terfel.
Bydd yn chwarae tair rhan yn ystod y perfformiad, sef Deiniol Sant, Owain Glyndŵr a Daniel, gofalwr y Gadeirlan yn y presennol.
Dywedodd Cefin Roberts ei fod yn gwybod o'r cychwyn y byddai creu sioe i ddathlu hanes y Gadeirlan yn her fawr.
"Pan dderbyniais yr her o greu sioe i ddathlu'r pen-blwydd arbennig hwn yn hanes Cadeirlan Bangor, roeddwn i'n gwybod o'r cychwyn y byddai'n gynhyrchiad mawr ym mhob ystyr," meddai.
"Pan ddarganfyddais fod yr hanes yn cynnwys cymeriadau mor lliwgar â Dewi Sant, Dafydd ap Gwilym, Owain Glyndŵr, y Frenhines Elisabeth I a'r Esgob John Warren, sylweddolais fod gen i stori epig ar fy nwylo."
Ychwanegodd mai'r bobl sydd wedi troi at y Gadeirlan am loches a chymorth dros y canrifoedd sydd wrth galon y cynhyrchiad.
"Wrth wraidd y stori hon mae'r bobl sy'n crwydro ar gyrion Cadeirlan Bangor, pobl sydd o hyd yn chwilio am loches a noddfa.
"Trwy ddawns, cân a drama, rydyn ni'n gobeithio plethu'r holl straeon lliwgar hyn mewn digwyddiad theatrig sy'n deilwng o'r achlysur."
Hanes Glanaethwy
Sefydlodd Cefin Roberts Ysgol Glanaethwy gyda'i wraig, Rhian, a daeth côr yr ysgol yn adnabyddus ledled y DU ar ôl ymddangos ar raglenni Last Choir Standing y BBC yn 2008 a Britain's Got Talent ar ITV yn 2015.
Enillodd Côr Glanaethwy deitl Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2024 hefyd.
Bydd Côr Cofnod o Gaernarfon a Chôr Hogia'r Ddwylan, sydd ag aelodau o ddwy ochr Afon Menai, hefyd yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ysgol Glanaethwy y bydd yn gwerthu ei safle ym Mharc Menai ym Mangor ac yn torri'n ôl ar niferoedd ac oedran y disgyblion y maen nhw'n eu hyfforddi.