Cymru Premier: Cyntaf yn erbyn ail wrth i'r Seintiau wynebu Cei Connah

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Seintiau Newydd

Bydd y cyntaf yn yn wynebu'r ail dîm yn y Cymru Premier ddydd Sadwrn, wrth i Gei Connah deithio i Groesoswallt i herio'r Seintiau Newydd.

Met Caerdydd (8fed) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:30

Mae Pen-y-bont wedi ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf, ac yn cadw’n dynn ar sodlau’r ddau uwch eu pennau, sef Cei Connah a’r Seintiau Newydd.

Triphwynt yn unig sy’n gwahanu Met Caerdydd a’r Barri (6ed) ar ddechrau’r penwythnos, ac mae’r myfyrwyr yn benderfynol o gamu i’r Chwech Uchaf eleni.

Mae blaenwr Met Caerdydd, Jasper Payne wedi rhwydo wyth gôl yn barod y tymor hwn, a bydd yn anelu i fod y cyntaf o garfan y Met i gyrraedd ffigyrau dwbl ers i Ollie Hulbert (14 gôl) ac Eliot Evans (12 gôl) wneud hynny yn 2020/21.

Mae yna record hafal rhwng y clybiau gyda pump o’r naw gêm ddiwethaf wedi gorffen yn gyfartal (Met Caerdydd yn ennill 2, Pen-y-bont yn ennill 2).

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ͏➖✅✅❌➖

Pen-y-bont: ͏✅✅✅❌✅

Y Seintiau Newydd (1af) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)

Enillodd y Seintiau o 9-0 gartref yn erbyn Rhydaman y penwythnos diwethaf i’w gwneud hi’n 14 buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Mae golwr y Seintiau, Nathan Shepperd wedi llwyddo i gadw wyth llechen lân mewn 14gêm gynghrair gan ildio dim ond chwe gôl hyd yma.

Mae’r pencampwyr chwe phwynt yn glir ar frig y tabl ac yn gobeithio agor y bwlch hwnnw nos Sadwrn pan yn wynebu eu gelynion pennaf, Cei Connah.

Mae Cei Connah wedi ennill saith gêm yn olynol erbyn hyn gan godi i’r ail safle, a bydd John Disney yn awyddus i gadw’r pwysau ar y pencampwyr.

Un sydd wedi disgleirio i’r Nomadiaid eleni ydi Callum West, a does neb wedi cyfrannu at fwy o goliau cynghrair y tymor yma na chwaraewr creadigol Cei Connah (sgorio 7, creu 10).

Ond dyw cyn-chwaraewr Cei Connah, Rhys Hughes ddim yn rhy bell ar ei ôl, gyda seren newydd y Seintiau wedi sgorio 12 a chreu tair i’w glwb newydd.

Mae’r Seintiau wedi ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah gyda pump o’r gemau rheiny yn gorffen yn 2-1 i griw Croesoswallt.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅✅

Cei Connah: ͏✅✅✅✅✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.