Noel Mooney: 'Llywodraethiant pêl-droed ddim yn gweithio i Gymru'
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney, yn dweud nad yw "llywodraethiant pêl-droed yn gweithio i Gymru".
Daw ei sylwadau ar ôl i Lywydd FIFA, Gianni Infantino, ddweud bod ganddo "gefnogaeth y mwyafrif llethol" o wledydd wrth gael ei holi a oedd wedi ystyried camu o'r neilltu.
Dros yr haf, roedd Infantino wedi ceisio cyflwyno cynllun dadleuol i werthu cyfranddaliadau yng nghystadlaethau'r corff llywodraethu i fuddsoddwyr preifat.
Cafodd y cynllun ei wrthwynebu'n eang, cyn i Infantino ymddiheuro i Gyngor FIFA am y ffordd y cafodd y cynllun ei "gyfathrebu".
Cymru oedd y gymdeithas bêl-droed gyntaf i gyhoeddi na fyddai'n cefnogi ymgais Infantino i gael ei ailethol.
Dywedodd Noel Mooney nad oedd safbwynt CBDC wedi newid, ac nad oedd llywodraethiant FIFA yn gweithio i Gymru.
"Mae'n enghraifft o lywodraethiant gwael ac yn dangos ffordd wael o geisio diogelu pêl-droed," meddai wrth y BBC.
“Mae angen adolygu’r ffordd y mae’r gêm yn cael ei llywodraethu ar lefel fyd-eang - nid yw’r system yn gweithio i ni,” meddai Mooney.
“Yr hyn rydych chi ei eisiau gan Lywydd FIFA, er enghraifft, yw rhywun sy’n gweithredu fel gwarcheidwad moesol y gêm.
“Rydych chi eisiau rhywun sydd bob amser yn rhoi buddiannau gorau’r gêm yn gyntaf.
"Ond i ni, nid mater o Lywydd FIFA yn unig yw hyn, ond y system gyfan.
"Byddwn yn galw am newid yn y ffordd y mae pêl-droed yn cael ei lywodraethu... fel nad oes gan un person gymaint o bŵer ag sydd gan Lywydd FIFA, er enghraifft.
