Rhybuddion llifogydd ar arfordir Cymru ar ôl gwyntoedd cryfion dros nos

Llifogydd ar yr arfordir

Mae rhybuddion llifogydd yn eu lle ar rannau o arfordir Cymru fore Mawrth, ar ôl noson o wyntoedd cryfion a glaw trwm.

Roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddau rybudd llifogydd fore Mawrth, a'r rheini yn Sir Gaerfyrddin, ar gyfer ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan y llanw ym Mhentywyn ac ym Mharc Gwyliau Bae Caerfyrddin, Cydweli.

Roedd 12 rhybudd i fod yn barod am lifogydd mewn grym, gan gynnwys ar arfordir Llŷn a Bae Ceredigion, arfordir gorllewin Môn, arfordir gogledd-orllewin Cymru, arfordir Sir Benfro, arfordir Sir Gaerfyrddin a Bae Abertawe ac arfordir Gŵyr.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio bod coed ar y ffyrdd ar yr A40 rhwng Llywel a Halfway a'r A475 rhwng Adpar a Llandyfriog.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai hyrddiau o wynt gyrraedd hyd at 65 milltir yr awr mewn mannau agored dros nos.

Roedd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym mewn naw sir yng Nghymru rhwng 18:00 nos Lun a 03:00 fore Mawrth.

Y siroedd dan sylw oedd Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Roedd disgwyl i'r gwyntoedd cryfaf daro ardaloedd arfordirol agored a thir uchel, gyda hyrddiau o rhwng 60 a 65 milltir yr awr.

Mewn ardaloedd mewndirol, roedd disgwyl hyrddiau o rhwng 45 a 50 milltir yr awr.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd perygl o lifogydd ar hyd arfordiroedd gorllewin a de-orllewin Cymru oherwydd cyfuniad o wyntoedd cryfion a lefelau uchel y môr.

Roedd y Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio y gallai'r gwyntoedd cryfion achosi tonnau mawr ar hyd yr arfordir, gan effeithio ar ffyrdd a chymunedau ger y môr.

Dywedodd y corff y gallai tonnau mawr ysgubo pobl oddi ar eu traed ac i'r môr, hyd yn oed pan fyddan nhw'n sefyll ar y lan.

Roedd posibilrwydd hefyd o oedi ar wasanaethau trafnidiaeth, gan gynnwys trenau, bysiau a fferïau, yn ogystal â thoriadau i gyflenwadau trydan.

Cafodd gyrwyr cerbydau uchel eu rhybuddio i fod yn ofalus ar ffyrdd a phontydd agored.

Tywydd i wella

Mae disgwyl i'r tywydd wella'n raddol yn ystod dydd Mawrth, gyda'r gwyntoedd yn gwanhau a chyfnodau heulog rhwng ambell gawod.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd hi'n ddiwrnod brafiach ond gwyntog, gyda thymheredd uchaf o tua 14°C.

Mae disgwyl i'r tywydd ddod yn fwy sefydlog o ganol yr wythnos ymlaen, gyda dydd Mercher yn dechrau gyda chawodydd cyn i'r amodau wella yn ystod y prynhawn.

Mae rhagolygon Cyfoeth Naturiol Cymru yn awgrymu y bydd y perygl o lifogydd yn isel iawn ledled Cymru o ddydd Mercher ymlaen.

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i wirio'r rhybuddion diweddaraf cyn teithio, ac i beidio â cherdded na gyrru drwy ddŵr llifogydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.