Newyddion S4C

Achub geifr oedd mewn trafferth ar greigiau'r Gogarth yn Llandudno

Geifr Gogarth, RSPCA Cymru
RSPCA

Bu'n rhaid i dîm achub RSPCA Cymru a Chyngor Sir Conwy achub geifr o greigiau ar fynydd y Gogarth ger Llandudno yn gynharach yr wythnos hon, ar ôl i 18 o'r anifeiliaid gwyllt redeg ar ôl dwy afr fenywaidd. 

Mae'r geifr yn anifeiliaid cyfarwydd yn yr ardal, ac maent wedi eu gweld yn ddiweddar yn chwilio am fwyd ar strydoedd tref Llandudno. 

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA eu bod yn pryderu y byddai'r geifr wedi llwgu oherwydd y diffyg mannau pori, bwyd a dŵr addas ar y creigiau, gan gynnwys y ffaith fod y llanw yn uchel. 

Gyda chymorth Cyngor Sir Conwy, fe luniodd yr elusen "gynllun achub arloesol" oedd yn cynnwys creu llwybr o wair oedd yn galluogi'r geifr i ddringo yn ôl i dir diogel. 

Image
RSPCA Cymru
Fe lwyddodd RSPCA Cymru i achub y geifr drwy greu llwybr o feliau gwair yng Ngogarth. [Llun: RSPCA Cymru]

Fe lwyddodd y tîm i achub 21 gafr yn ddiogel yn y pen draw. 

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd llefarydd o'r RSPCA: "Roedd y geifr mewn perygl difrifol.

"Pe na bai cynllun achub wedi ei gynllunio, byddai'r geifr naill ai wedi llwgu neu boddi, gan nad oedd yna unrhyw le iddyn nhw allu pori nag yfed dŵr priodol.

"Roedden nhw hefyd mewn perygl o lanw uchel oherwydd y lleuad lawn. 

"'Da ni'n hynod o ddiolchgar i'r awdurdod lleol am gynnig cymorth i ni yn ystod y digwyddiad hwn. Rydym yn hapus iawn ein bod ni wedi gallu helpu mewn cynllun achub arloesol ac yn enghraifft berffaith o'r hyn y gellir ei gyflawni wrth weithio gyda'n gilydd er lles anifeiliaid."

Prif lun: RSPCA Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.