TaithCymru: Gwasanaeth bws newydd rhwng y de a'r gogledd yn cychwyn
Mae gwasanaeth bws pellter hir newydd sy'n cysylltu rhai o brif drefi gogledd-orllewin a de-orllewin Cymru, gan dorri hyd at awr oddi ar amseroedd teithio, yn dechrau gweithredu ddydd Sul.
Fe fydd coetsys TaithCymru yn rhedeg bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.
Bydd estyniad i'r gwasanaeth yn hwyr yn y nos hefyd yn cysylltu Bangor â phorthladd a gorsaf drên Caergybi.
Ni fydd modd i deithwyr ddefnyddio eu cardiau teithio rhatach ar y gwasanaeth, gyda Llywodraeth Cymru yn dweud wrth Newyddion S4C fis diwethaf mai'r rheswm am hynny yw nad yw TaithCymru yn "wasanaeth bws lleol".
Mae'n rhaid archebu tocyn o flaen llaw hefyd, a bydd modd gwneud hynny hyd at 15 munud cyn teithio.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru y bydd TaithCymru yn cynnig prisiau "cyson a fforddiadwy", gyda thocyn sengl o Fangor i Gaerfyrddin yn costio £10 i oedolyn.
Pris cyflwyno yw hwn, a bydd yn codi i £14 ym mis Ionawr 2027.
Mae'r cerbydau hefyd yn cynnwys lle i un gadair olwyn, yn ogystal â darpariaeth gyfyngedig i feicwyr.
Ond nid yw'r toiledau ar y coetsys yn hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn, ac nid yw'r arhosfan yn Aberaeron yn hygyrch ar hyn o bryd.
'Cam sylweddol'
"Mae TaithCymru yn gam sylweddol ymlaen wrth gysylltu cymunedau ar draws Gogledd a De-orllewin Cymru,” meddai Mark Hooper, y dirprwy weinidog dros drafnidiaeth.
"O ddydd Sul yma, bydd pobl yn gallu teithio rhwng Bangor a Chaerfyrddin yn gyflymach ac yn haws nag erioed o'r blaen, gyda choetsys cyfforddus, modern yn galw mewn trefi allweddol ar hyd y ffordd."
Ychwanegodd: "Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn rhan o'n huchelgais ehangach i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig ledled Cymru, gan gysylltu gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd, annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir ar gyfer pob taith, a chefnogi ein nodau twristiaeth gynaliadwy a datgarboneiddio."
Mae cwmni Edwards Coaches wedi cael ei benodi i weithredu'r gwasanaeth newydd mewn partneriaeth â Llew Jones Coaches.
Mae wyth o goetsys newydd wedi cael eu prynu er mwyn rhedeg y gwasanaeth.
Amserlen gyfyngedig fydd mewn grym ar ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth ddydd Sul.