Rwsia ac Wcráin yn cytuno ar gadoediad lleol i atal 'trychineb' mewn tref sy'n brin o fwyd

Tref Oleshky. Llun: Comisiynydd Hawliau Dynol Wcrain
Tref Oleshky. Llun: Comisiynydd Hawliau Dynol Wcrain

Mae Rwsia ac Wcráin wedi cytuno ar gadoediad lleol yn nhref Oleshky, lle mae bwyd a meddyginiaeth wedi bod yn brin ers misoedd.

Cyhoeddodd y Tŷ Gwyn brynhawn dydd Gwener fod Melania Trump, gwraig Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi “llwyddo i selio” cytundeb rhwng y ddwy ochr, a fydd yn dod i rym yr wythnos nesaf.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach gan swyddogion ym Moscow a Kyiv fod y ddwy ochr wedi dod i gytundeb.

Mae Oleshky, tref yn nhalaith Kherson yn ne Wcráin, wedi bod dan reolaeth lluoedd Rwsia ers dyddiau cyntaf goresgyniad y wlad yn 2022.

Wedi'i lleoli'n agos at y rheng flaen yn y rhyfel, mae dronau yn yr awyr a ffrwydron tir ar y ffyrdd wedi ei gwneud hi'n anodd i bobl ddod i mewn neu fynd allan o'r dref dros y misoedd diwethaf, gan adael trigolion heb fwyd ac adnoddau allweddol eraill.

Mae rhai trigolion wedi troi at fwyta chwyn o'u gerddi yn sgil y diffyg bwyd, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd y Tŷ Gwyn y byddai'r cadoediad yn cychwyn ar 29 Hydref, gan ganiatáu i gymorth dyngarol gyrraedd y dref ac i'r rhai sydd eisiau gadael wneud hynny.

Dywedodd Melania Trump fod y dref “ar erchwyn trychineb”.

“Mae gweddill poblogaeth Oleshky yn cynnwys yn bennaf trigolion hŷn sydd angen cymorth meddygol, meddyginiaeth, bwyd a dŵr glân ar frys,” meddai mewn datganiad.

Dywedodd Davyd Arakhamia, aelod blaenllaw o blaid Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, y byddai'r gwaith o “ddadflocio Oleshky a’r ardal gyfagos yn cychwyn yn y dyfodol agos.”

Daeth cadarnhad hefyd gan Dmitry Peskov, llefarydd dros Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, a ddywedodd fod swyddogion milwrol yn gweithio i gydlynu trefniadau'r cadoediad.

Ond dywedodd pennaeth staff cyffredinol lluoedd arfog Rwsia, Valery Gerasimov, y byddai lluoedd Rwsia yn rhoi'r gorau i saethu yn ardal Kherson ddydd Mawrth, 27 Hydref, ddau ddiwrnod cyn y dyddiad a gyhoeddodd y Tŷ Gwyn.

Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi para bron i bum mlynedd erbyn hyn, gyda channoedd o filoedd wedi'u lladd a llawer rhagor wedi'u hanafu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.