Gorchymyn cau am dri mis ar fflat yn y Bala wedi i gyffuriau gael eu darganfod

Gorchymyn cau Bala
Mae gorchymyn cau wedi ei osod ar fflat yn y Bala ar ôl i gyffuriau gael eu darganfod.
 
Cafodd cyrch ei gynnal gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru mewn adeilad ar Heol Tegid ar 19 Hydref, ar ôl cael gwybodaeth yn cysylltu’r eiddo ag ymddygiad troseddol.
 
Cafwyd hyd i'r hyn sydd yn cael ei amau o fod yn gyffuriau Dosbarth A a B yn y lleoliad.
 
Bydd yr eiddo ar gau am dri mis wedi i'r heddlu weithredu gorchymyn cau gan y llysoedd ar 20 Hydref. 
 
Ni fydd modd i unrhyw un fynd i mewn i’r adeilad, heblaw’r bobl sy’n byw yno, yn ystod y cyfnod yma.
 
Dywedodd y Cwnstabl Aled Hughes o Heddlu'r Gogledd: “Hoffwn i ddiolch i’r gymuned am eu help parhaus efo’r mater hwn.
 
“’Dan ni’n gwrando, ac mi gymerwn gamau er mwyn atal digwyddiadau sy’n achosi problemau mewn cymdogaethau, ac i ddiogelu’r cyhoedd ehangach.
 
“Anogwn unrhyw un sydd efo pryderon pellach ynglŷn â’r cyfeiriad hwn i gysylltu efo’r heddlu drwy ein gwefan ni, neu drwy ffonio 101.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.