'Cae sy'n perthyn i ni': Y Gweilch i chwarae yn Sain Helen am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd

Y Gweilch

Bydd y Gweilch yn chwarae eu gêm gystadleuol gyntaf yn Sain Helen am dros 20 mlynedd nos Sadwrn, wrth iddyn nhw groesawu'r Dreigiau ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig (URC).

Mae'r achlysur yn nodi dechrau cyfnod newydd i'r rhanbarth, ar ôl misoedd o waith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd ar un o gaeau rygbi mwyaf hanesyddol Cymru.

Mae pob un o'r 5,000 o docynnau ar gyfer y gêm wedi'u gwerthu, gyda'r Gweilch yn gobeithio creu awyrgylch arbennig ar gyfer eu gêm gartref gyntaf o'r tymor.

Dyma fydd gêm gystadleuol gyntaf y Gweilch yn Sain Helen ers iddyn nhw symud o'r maes yn 2005.

Daw'r gêm yng nghanol ansicrwydd sylweddol ynghylch dyfodol y rhanbarth, gyda chynlluniau Undeb Rygbi Cymru i leihau nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri.

Image
Abertawe yn herio Glyn Ebwy ar y cae newydd. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Abertawe yn herio Glyn Ebwy ar y cae newydd. Llun: Asiantaeth Huw Evans

'Perthyn i ni'

Wrth siarad cyn y gêm yn erbyn y Dreigiau, dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Mark Jones, fod cael cae cartref iddyn nhw eu hunain yn gyfle i'r rhanbarth ddechrau cyfnod newydd.

"Rydyn ni wedi bod yn ffodus o gael defnyddio Stadiwm Swansea.com a Chae'r Bragdy dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r cae hwn wir yn perthyn i ni," meddai.

"Mae gennym ni gyfle nawr i osod ein stamp ein hunain ar yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl wrth ddod i wylio'r Gweilch.

"Mae'n gyffrous iawn i bawb."

Roedd Mark Jones hefyd wedi dweud yn gynharach eleni fod y clwb yn awyddus i greu cysylltiad cryfach rhwng y chwaraewyr a'r cefnogwyr.

"Mae Sain Helen yn un o gaeau mwyaf eiconig rygbi Cymru, ac mae'r cyfle i chwarae yno eto yn gyffrous iawn i bawb sy'n rhan o'r clwb," meddai.

"Fel grŵp, rydyn ni eisiau creu amgylchedd y gall y chwaraewyr a'r cefnogwyr uniaethu ag ef, rhywle sydd â hunaniaeth ac egni go iawn.

"Mae dod â rygbi proffesiynol yn ôl i Sain Helen yn rhoi hynny i ni, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at adeiladu rhywbeth arbennig yno."

Image
Mae'r eisteddle newydd yn cynnwys seddi du, sef lliw cit cartref y Gweilch. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Mae'r eisteddle newydd yn cynnwys seddi du, sef lliw cit cartref y Gweilch. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae gwaith helaeth wedi bod yn digwydd yn Sain Helen ers mis Mehefin er mwyn paratoi'r cae ar gyfer rygbi proffesiynol.

Mae'r gwaith yn cynnwys gosod cae artiffisial newydd, llifoleuadau, eisteddle newydd a gwelliannau i'r terasau a'r cyfleusterau i gefnogwyr.

Mae Cyngor Abertawe yn buddsoddi £7.6 miliwn yn y gwaith, gyda'r Gweilch yn cyfrannu £2.6 miliwn arall.

Bydd y gwaith adnewyddu'n digwydd fesul cam, gyda chynlluniau i gynyddu capasiti'r maes a datblygu'r cyfleusterau ymhellach.

Er bod y teras yn barod i'w ddefnyddio ar gyfer y gêm yn erbyn y Dreigiau, ni fydd to drosto yn ystod y cam cyntaf o'r gwaith.

Mae'r Gweilch wedi dweud eu bod yn parhau i obeithio gosod to dros y teras yn y dyfodol.

Mae Clwb Rygbi Abertawe eisoes wedi chwarae dwy gêm yn Super Rygbi Cymru ar y cae newydd, gan gynnwys buddugoliaeth dros Gaerdydd o flaen tua 3,000 o gefnogwyr ar 15 Hydref.

Image
Does dim to dros y teras eto. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Does dim to dros y teras eto. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y Gweilch, Richard Lancaster, fod cwblhau cymaint o waith mewn cyfnod mor fyr yn dasg arbennig.

"Dim ond ym mis Mehefin y gwnaethon ni ddechrau'r gwaith ar y maes mewn gwirionedd," meddai.

"Mae'r hyn sydd wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr yn ddim llai na rhyfeddol.

"Mae nifer anhygoel o bobl wedi bod yn gweithio ddydd a nos i gael y maes yn barod."

Ychwanegodd fod gwerthiant tocynnau tymor y clwb wedi mwy na dyblu cyn y symud.

Ansicrwydd am y dyfodol

Yng nghanol y cyffro ynghylch dychwelyd i Sain Helen, mae ansicrwydd sylweddol yn parhau am ddyfodol y Gweilch.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu lleihau nifer y timau rygbi proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri o dymor 2028-29 ymlaen.

O dan y cynlluniau, byddai un tîm wedi'i leoli yn y brifddinas, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.

Mae hynny'n golygu bod y Gweilch a'r Scarlets yn cystadlu am yr un drwydded i gynrychioli gorllewin Cymru, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol erbyn diwedd tymor 2026-27.

Mae'r cynlluniau wedi ennyn gwrthwynebiad chwyrn yn lleol, gyda Chyngor Abertawe wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr Undeb ynghylch y penderfyniad.

Hanes Sain Helen

Mae Sain Helen yn rhan bwysig o hanes rygbi Cymru.

Chwaraeodd Cymru ei gêm rygbi ryngwladol gartref gyntaf yno yn erbyn Lloegr ym 1882.

Mae'r maes hefyd yn enwog fel cartref Clwb Rygbi Abertawe, sydd â hanes hir o wynebu timau rhyngwladol, gan gynnwys Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia.

Roedd Sain Helen hefyd yn gartref i'r Gweilch pan gafodd y rhanbarth ei sefydlu yn 2003.

Ond yn 2005, symudodd y clwb i Stadiwm Liberty, a gafodd ei ailenwi'n Stadiwm Swansea.com yn ddiweddarach, gan rannu'r cyfleusterau â Chlwb Pêl-Droed Dinas Abertawe.

Ar ôl gadael y stadiwm hwnnw yn 2025, treuliodd y Gweilch y tymor diwethaf yn chwarae eu gemau cartref ar Gae'r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bellach, mae'r clwb yn dychwelyd i'w hen gartref, gyda'r gobaith y bydd y symudiad yn helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.

Yn ôl Richard Lancaster, bydd y gallu i gadw incwm o werthu bwyd a diod, lletygarwch a digwyddiadau eraill yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i sefyllfa ariannol y clwb.

"Mae'n gartref gwych i'r Gweilch. Mae cael cartref y gallwn ei alw'n gartref i ni ein hunain yn rhywbeth nad ydyn ni erioed wedi'i gael," meddai.

"Ond yn fwy na hynny, mae'n gyfleuster i'r gymuned."

'Gornest dda'

Bydd y Gweilch yn wynebu'r Dreigiau am yr eildro mewn tair wythnos, ar ôl ennill 38-31 yng Nghasnewydd yn gynharach y mis hwn.

Mae tîm Mark Jones wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf, gan gynnwys buddugoliaeth o 39-14 yn erbyn Black Lion yn Georgia yng Nghwpan Her Ewrop.

Bydd pedwar chwaraewr sydd wedi'u dewis yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol mis Tachwedd yn dechrau i'r Gweilch nos Sadwrn: Gareth Thomas, Reuben Morgan-Williams, Dan Edwards a Tom Rogers.

Bydd Owen Watkin a Sam Parry yn arwain y tîm fel cyd-gapteiniaid.

Mae prif hyfforddwr y Dreigiau, Filo Tiatia, sy'n gyn-chwaraewr y Gweilch, yn cydnabod arwyddocâd yr achlysur.

"Dyma'r gêm gyntaf yn Sain Helen, felly bydd yn achlysur arbennig, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at fynd yno a chael gornest dda," meddai.

"Mae'r ddau dîm yn awyddus i ennill pwyntiau, ac mae gemau darbi bob amser yn arbennig."

Bydd y gêm yn dechrau am 19:00 nos Sadwrn a bydd modd ei gwylio'n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.