Môn: Galw Gwylwyr y Glannau ar ôl meddwl mai dynes oedd morlo

Gwylwyr y Glannau Angle, Sir Benfro

Fe gafodd gwylwyr y glannau eu galw i ogof ar Ynys Môn wedi adroddiadau bod dynes wedi mynd i drafferthion yno.

Ond wrth gyrraedd yr ogof ger Porth Dafarch fe wnaeth gwylwyr y glannau ddarganfod mai morlo oedd yn gwneud y synau oedd wedi eu clywed.

Roedd Gwylwyr y Glannau Rhosneigr, Caergybi a Bae Cemaes yn rhan o’r ymdrech.

Hefyd yn y fan a'r lle'r oedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a Bad Achub Bae Trearddur.

“Wrth gyrraedd yr ogof roedd Bad Achub Bae Trearddur yn gallu cadarnhau yn fuan bod y synau uchel yn dod o forlo bach oedd yn cyfarth ac iepian yn syndod o swnllyd,” meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Rhosneigr.

“Ar ôl sicrhau nad oedd unigolyn mewn trallod yn yr ogof fe wnaeth pawb ddychwelyd i’r orsaf i fod yn barod ar gyfer unrhyw alwadau pellach.

“Diolch yn fawr iawn i’r aelodau o’r cyhoedd a wnaeth benderfynu yn syth i alw Gwylwyr y Glannau, ac fe gafodd yr alwad ei wneud am y rhesymau cywir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.