Oedi agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt
Fe fydd oedi o flwyddyn i gynlluniau i agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt.
Roedd disgwyl i Ysgol Bro Epynt, sef ysgol newydd ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 18 oed, agor ei drysau ym mis Medi 2027.
Ond mae swyddogion bellach wedi cyhoeddi mai 1 Medi 2028 fydd y dyddiad newydd ar gyfer hyn.
Mae'n golygu dod â’r ddarpariaeth Gymraeg i ben yn raddol yn ysgol ddwyieithog Ysgol Calon Cymru, sydd â champysau yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod. Ni fydd gan Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt ffrwd Gymraeg yn y dyfodol chwaith.
Y bwriad yw sefydlu Ysgol Bro Epynt ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Bydd Ysgol Calon Cymru yn symud i'r campws yn Llandrindod yn unig.
Fe wnaeth y Cynghorydd James Gibson-Watt sy'n gyfrifol am y portffolio addysg gyflwyno dau opsiwn i'w gyd-gynghorwyr, sef naill ai parhau â'r amserlen wreiddiol neu ohirio am flwyddyn.
"Mae hon yn broses gymhleth sy’n cynnwys nid yn unig cynnig adeiladu sylweddol yn Llandrindod, ond hefyd addasiadau i gampws Llanfair-ym-Muallt er mwyn darparu ar gyfer poblogaeth ysgol gydol oes," meddai.
'Heriau sylweddol'
Dywedodd Cyngor Powys ei bod hi wedi dod i'r amlwg fod "heriau sylweddol" yn gysylltiedig â'r broses adeiladu a chaffael sydd ei hangen i ailfodelu'r safle i "ymgorffori cyfleusterau ar gyfer disgyblion cynradd a blynyddoedd cynnar".
Ychwanegodd y cyngor fod hyn yn cyflwyno "heriau sylweddol wrth gwblhau'r gwaith mewn pryd i alluogi Ysgol Bro Epynt i agor ar y safle ym mis Medi 2027."
Y bwriad yw cynnal proses dendro i benodi contractwr i fynd i'r afael â'r gwaith adeiladu angenrheidiol ar gampws Llanfair-ymMuallt yn ôl y cyngor.
Ond mae contractwyr wedi rhoi gwybod y byddai angen cyfnod tendro o wyth wythnos i gyflwyno tendrau, tra bod y rhaglen yn rhagfynegi cyfnod tendro o bedair wythnos.
"Mae hyn felly yn dangos bod perygl na fydd y gwaith adeiladu sydd ei angen ar gampws Llanfair-ym-Muallt yn cael ei gwblhau mewn pryd i alluogi Ysgol Bro Epynt i agor yn yr adeiladau wedi’u hailfodelu ym mis Medi 2027," meddai'r cyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gibson-Watt: "O fy rhan i, mae'n hanfodol ein bod ni'n lleihau unrhyw risgiau yn y broses.
"Ni fyddai pethau yn barod mewn amser ar gyfer y newidiadau i ddigwydd ym mis Medi 2027.
"Mae'r cyngor gan swyddogion yn glir, opsiwn dau sy'n cael ei ffafrio."
Fe wnaeth yr aelodau o'r cabinet bleidleisio o blaid oedi agor yr ysgol am flwyddyn.