Yr heddlu'n rhoi enw i fabi y cafwyd hyd i'w chorff ar lan y Fenai

Llinos Davies - Uwch Arolygydd, Heddlu Gogledd Cymru
Babi'r Fenai

Mae'r enw Ceri wedi ei roi i ferch fach y cafodd ei chorff ei ddarganfod ar lan y Fenai ym Mangor, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Nid yw'r heddlu wedi llwyddo i adnabod na dod o hyd i'w mam hyd yma, ac mae swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth.

Mae'r heddlu hefyd yn aros am ganlyniadau nifer o brofion arbenigol, wrth iddyn nhw geisio deall beth ddigwyddodd i'r ferch fach a phwy yw ei rhieni.

Fel rhan o'r ymchwiliad, mae swyddogion yn apelio ar bobl oedd yn mynd â'u cŵn am dro ac eraill oedd yn cerdded yn rheolaidd yn ardal Caeau Ashley ym Mangor rhwng 30 Awst a 27 Medi i gysylltu.

Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â lluniau neu fideos a dynnwyd ar lan y Fenai yn ardal Ffordd Siliwen yn ystod yr un cyfnod eu rhannu â'r heddlu.

Yn ôl yr heddlu, gallai unrhyw lun neu fideo fod yn berthnasol i'r ymchwiliad.

Dywedodd Uwcharolygydd Llinos Davies: "'Da ni'n parhau i fod yn benderfynol o gael atebion ar gyfer Babi Ceri.

"Mae'r holl ymchwiliadau posibl yn cael eu cyflawni, a 'da ni'n aros am ganlyniadau sawl prawf arbenigol, 'da ni'n gobeithio y gallan nhw roi llwybrau newydd i ni edrych arnyn nhw."

Apêl at y fam

Mae llinell ffôn arbennig ar gael ar gyfer mam Ceri, gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn barod i gynnig cymorth iddi.

Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Efallai nad wyt ti wedi teimlo'n hyderus i ddod ymlaen eto, ond bydda'n ymwybodol bod gynnon ni arbenigwyr yn barod i dy helpu di. Waeth beth ydy'r amgylchiadau, cysyllta hefo ni.

"Os ti'n gweld y neges yma, ffonia neu anfona neges destun at 07974 241223.

"Pan fyddi di'n ffonio, byddi di'n siarad yn uniongyrchol hefo arbenigwr hyfforddedig. Eu gwaith nhw ydy gwrando a helpu.

"Does dim rhaid i ti fod ofn siarad. Mi fyddi di'n cael dy drin hefo tosturi, urddas a pharch."

Dywedodd Uwcharolygydd Davies nad yw'r heddlu wedi llwyddo i adnabod na dod o hyd i fam Ceri hyd yma, er gwaethaf y wybodaeth sydd wedi dod i law.

Ychwanegodd: "Gofynnir i unrhyw un sydd wedi bod hefo pryderon am ddynes neu eneth yn ystod y misoedd diwethaf i ddod ymlaen.

"'Da ni ddim yn gofyn i unrhyw un dybio neu gyhuddo neb. Gall rhywbeth sy'n ymddangos yn ddibwys neu sydd hefo esboniad hollol ddiniwed fod yn hanfodol i ddod o hyd i'r gwir ar gyfer Ceri."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Melex.

Mae modd hefyd cyflwyno gwybodaeth, lluniau neu fideos drwy borth gwybodaeth yr heddlu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.