Cerdd Bardd Cenedlaethol Cymru yn cael ei gwrthod ar gyfer agoriad y Senedd
Ni fydd Bardd Cenedlaethol Cymru Hanan Issa yn cael darllen ei gwaith fel y disgwyl yn agoriad Senedd Cymru ddydd Iau ar ôl i'w cherdd gael ei gwrthod gan swyddogion y Senedd.
Fe fydd y Brenin a'r Frenhines yn ymweld â Chaerdydd ddydd Iau ar gyfer agoriad seremonïol y Seithfed Senedd.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Brenin Charles III agor y Senedd ers iddo ddod yn frenin yn 2022.
Dywedodd Hanan Issa mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod wedi cael ei chomisiynu i ysgrifennu a pherfformio darn ar gyfer agoriad y Senedd ddydd Iau.
Roedd y cais yn gofyn am gerdd a fyddai'n "nodyn atgoffa" i Aelodau Seneddol o'u hymrwymiad i Gymru yn ôl Ms Issa.
Mae Ms Issa hefyd yn dweud iddi gael gwybod yn flaenorol fod y Senedd yn hapus iddi gyflwyno'r gerdd "fel y dymunai".
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Ar ôl proses ddatblygu, fe wnaethon ni ddod i'r casgliad nad oedd y gerdd yn addas ar gyfer yr achlysur yma.
"Rydyn ni'n parchu annibyniaeth artistig Bardd Cenedlaethol Cymru ac yn parhau i edmygu ei gwaith."
Mae'r gwaith yn trafod nifer o bynciau gan gynnwys y sefyllfa yn Gaza, hawliau pobl trawsryweddol a chau canolfannau endometriosis.
Mae bellach wedi rhannu y gerdd 'To Grow' ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ar ddechrau'r gerdd, mae'n dyfynnu'r geiriau enwog o ddrama Buchedd Garmon gan Saunders Lewis 'Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad, i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol'.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Issa: "Wedi fy ysbrydoli gan y dyfyniad Saunders Lewis ... fe ysgrifennais y gerdd am Gymru fel gardd a'r rhai sy'n gwneud y gyfraith fel y garddwyr."
Mae Ms Issa yn dweud bod ei cherdd wedi cael ei gwrthod ar gyfer agoriad y Senedd gan bod y digwyddiad hwnnw yn un "anwleidyddol".
Ychwanegodd ei bod wedi ceisio eto, gan addasu ei chyfeiriadau "i iaith fwy haniaethol" ond bod y gerdd yma hefyd wedi cael ei gwrthod.
Bydd seremoni ddydd Iau yn nodi dechrau tymor newydd y Senedd yn swyddogol yn dilyn etholiad 7 Mai.
Bydd y Brenin a'r Frenhines yn cyrraedd Bae Caerdydd tua amser cinio, cyn cael eu croesawu gan y Llywydd presennol, Huw Irranca-Davies, a'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.
Bydd y Brenin yn annerch Aelodau'r Senedd yn y Siambr, cyn i'r Prif Weinidog ymateb i'w araith.