Cymru yn curo Albania gan barhau ar eu taith i Gwpan y Byd
Mae Cymru wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd ar ôl ennill 3-0 yn erbyn Albania ym Mharc y Scarlets nos Fawrth.
Enillodd tîm Rhian Wilkinson 4-0 dros y ddau gymal, wedi ennill 1-0 oddi cartref ddydd Gwener. Bydd Cymru’n wynebu Norwy yn y rownd nesaf yn y ffenestr ryngwladol cyn y Nadolig gyda’r cymal cyntaf gartref a’r ail oddi cartref.
Fe ddechreuodd Cymru’n addawol, ond fe aeth ergyd Mared Griffiths a pheniad Elise Hughes oddi ar y targed yn y munudau cyntaf.
Wedi 34 munud, fe sgoriodd Mayzee Davies gôl gyntaf y noson i Gymru a’i gôl ryngwladol gyntaf, gan benio croesiad Lily Woodham i’r rhwyd wrth y postyn pellaf.
Yna fe ddyblodd Hughes fantais Cymru ar ôl 50 munud, gan droi croesiad Griffiths o’r chwith i’r rhwyd wrth y postyn agosaf.
Ychwanegodd Hannah Cain y drydedd ar ôl 62 munud. Fe gadwodd Griffiths yr ymosodiad yn fyw ar y chwith cyn pasio i Woodham, a groesodd i’r cwrt cosbi. Fe drodd Cain y bêl i’r rhwyd wedi i’r golwr Rajmonda Spahiu ei gwthio i’w chyfeiriad.
Fe ddaeth Cymru’n agos at bedwaredd gôl ar ôl 72 munud, pan darodd pêl uchel Gemma Evans y postyn.
Roedd hi'n noson arbennig hefyd i Casi Gregson o Lambed yng Ngheredigion wrth iddi ennill ei chap cyntaf dros dîm hŷn Cymru, gan ddod ymlaen ar ôl 87 munud.
Bydd angen i Gymru guro Norwy dros y ddau gymal wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ym Mrasil yn haf 2027.
Bydd saith o wyth enillydd y rownd derfynol yn cymhwyso’n syth. Bydd yr enillydd isaf ei safle ar sail ymgyrch gymhwyso UEFA yn wynebu cam ail-gyfle rhyngwladol pellach ym mis Chwefror 2027.
