Gwahardd chwe dyn o gemau pêl-droed ar ôl anhrefn cyn gêm rhwng Wrecsam a Chaerdydd
Mae chwe dyn wedi cael eu gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am bedair blynedd ar ôl cyfaddef eu rhan mewn anhrefn treisgar cyn gêm Wrecsam yn erbyn Caerdydd y llynedd.
Ymddangosodd chwe dyn ifanc rhwng 19 a 24 oed yn y llys ar gyhuddiadau o droseddau yn ymwneud ag anhrefn treisgar.
Roedd Harley Bagnall, 20 oed ac Alfie Hughes, 19 oed, y ddau o Ffordd Deva, Wrecsam, Charlie Jones, 20 oed, heb gyfeiriad sefydlog, Kian Roberts, 24 oed, o Goedlan Wavell, Wrecsam, Cian Wain, 22 oed, o Heol y Goron, Coed-llai, a Dion Williams, 23 oed, o Llys New Foundry, Wrecsam, eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau.
Digwyddodd yr anhrefn treisgar cyn gêm Cwpan Carabao rhwng Wrecsam a Chaerdydd ar 28 Hydref 2025. Enillodd Caerdydd o 2-1.
Cyn y gêm, fe aeth y dynion at dafarn yr Ironworks ar Allt y Dref a dechrau ymddwyn yn ymosodol cyn ymladd â grŵp o gefnogwyr Caerdydd.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd potel ei thaflu gan un o'r chwe dyn, gan daro aelod o staff diogelwch oedd yn sefyll wrth fynedfa'r dafarn.
Cafodd y chwe dyn eu harestio a'u cyhuddo o anhrefn treisgar.
Dedfrydau
Cafodd Harley Bagnall ei ddedfrydu i 15 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc, wedi'i ohirio am ddwy flynedd.
Fe gafodd Alfie Hughes ddedfryd o 12 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, tra bod Charlie Jones wedi cael dedfryd o 15 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc, hefyd wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Cafodd Kian Roberts a Cian Wain ddedfrydau o 11 mis yn y carchar yr un, wedi'u gohirio am ddwy flynedd.
Cafodd Dion Williams ddedfryd o 12 mis yn y carchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Fe gafodd pob un o'r chwe dyn hefyd orchymyn gwahardd pêl-droed am bedair blynedd.
Mae'r gorchmynion yn eu gwahardd rhag mynd i unrhyw gêm bêl-droed yn y DU yn ystod y cyfnod hwnnw.
Maen nhw hefyd wedi'u gwahardd rhag bod yng nghyffiniau stadiymau penodol ar ddiwrnodau gemau, a rhag mynd i unrhyw dref neu ddinas lle mae Wrecsam neu dîm cenedlaethol Cymru yn chwarae.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark Williams: "Does dim lle i drais nac anhrefn mewn pêl-droed, ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad sy'n peryglu eraill nac yn amharu ar ddiogelwch a mwynhad pobl o'r gêm.
"Mae'r gorchmynion gwahardd pêl-droed a osodwyd gan y llys ar y chwe unigolyn yma yn dangos canlyniadau gweithredoedd o'r fath.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i adnabod troseddwyr a sicrhau bod camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy'n ymwneud ag anhrefn sy'n gysylltiedig â phêl-droed.
"Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio'n agos gydag Uned Blismona Pêl-droed y Deyrnas Unedig a phartneriaid eraill i atal trais, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau bod pêl-droed yn parhau'n amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb."