Dechrau ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd

Meddygfa Cei Newydd

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar ddyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd yng Ngheredigion, ar ôl i'r partneriaid yno benderfynu rhoi’r gorau i’w cytundeb.

Ddydd Llun, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd dros gyfnod o wyth wythnos, er mwyn clywed barn pobl cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. 

Bydd y broses ymgysylltu ar agor tan dydd Sul 6 Rhagfyr.

Mae gwrthwynebiad i unrhyw fwriad i gau'r safle , gyda chyn-faer y dref yn dweud wrth Newyddion S4C fod pobl leol yn poeni'n fawr y sefyllfa.  

Dywedodd Gill Hopley: "Odyn, mae pobl yn panicio. A chi’n gallu gweld pam - achos i fynd â fe o’r Cei, beth mae pobl yn mynd i wneud amser ma' dim bysus neu ma’ nhw’n dod o’r tu allan i Cei?”

"Ni'n colli tipyn o bethach yn barod. Odd yr ambiwlans yma, mi gollon ni hwnnw. O'dd 'da ni bancs yma, ni wedi colli'r rheiny, a mae'n mynd yn waeth a waeth bob blwyddyn. 

"A gyda'r meddygfa nawr, byddai'n  reial twll mawr yn Cei."   

Daw'r broses ymgysylltu wedi penderfyniad Partneriaid Meddyg Teulu Meddygfa Cei Newydd i roi'r gorau i gytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol y feddygfa.

Bydd y cytundeb presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2027, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried sut y bydd gwasanaethau yn cael eu darparu ar ôl y dyddiad hwn.

Mae amrywiaeth o opsiynau wedi cael eu hystyried ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol, gan gynnwys dyfarnu cytundeb ar frys drwy broses gaffael i ddod o hyd i ddarparwr gwasanaethau newydd o Gei Newydd a'i benodi.

Mae'r Panel Practisau Gwag hefyd wedi cytuno i ystyried ffiniau ardaloedd practisau meddygon teulu cyfagos.

Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, ac mae'r Bwrdd Iechyd eisiau i gleifion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ddeall yr opsiynau a rhannu eu barn cyn cam nesaf y broses.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn cydnabod yn llawn mor bwysig yw’r gwasanaethau a ddarperir gan Feddygfa Cei Newydd i gleifion ac i’r gymuned ehangach, ac rydym yn deall y bydd gan bobl gwestiynau a phryderon ynghylch beth fydd yn digwydd ar ôl i’r contract presennol ddod i ben.

“Mae’r Panel Practisau Gwag wedi ystyried y dewisiadau sydd ar gael yn ofalus, gan ystyried ffactorau megis diogelwch cleifion, cynaliadwyedd, hyfywedd ariannol, daearyddiaeth yr ardal ac effaith bosibl ar gleifion. Ei ddewis a ffafrir yw profi a ellir sicrhau darparwr arall drwy broses gaffael ar gyfer dyfarnu contract ar frys."

Mae disgwyl i'r papur gael ei gyflwyno i'r Bwrdd Iechyd yn gynnar y flwyddyn nesaf yn nodi canlyniadau'r broses ymgysylltub a'r opsiynau amgen i'w hystyried os yn briodol. 

Llun: Google
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.