Cymru v Albania: Gêm gyfartal yn ddigon i dîm Rhian Wilkinson mewn her dyngedfennol
Fe fydd gêm gyfartal yn erbyn Albania yn ddigon i Gymru nos Fawrth i sicrhau eu lle yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd.
Cymru sydd â'r fantais cyn ail gymal y rownd gyn-derfynol yn erbyn Albania ar ôl ennill 1-0 oddi cartref nos Wener.
Gôl i'w rhwyd ei hun gan Ezmiralda Franja wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Rhian Wilkinson.
Bydd Cymru yn wynebu Albania ym Mharc y Scarlets am 19:15 nos Fawrth, gyda'r enillwyr dros y ddau gymal yn chwarae naill ai Rwmania neu Norwy yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Byddai gêm gyfartal yn ddigon i Gymru i gyrraedd cam nesaf yr ymgyrch a symud cam yn agosach at gyrraedd y gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal ym Mrasil yr haf nesaf.
Wrth siarad cyn y gêm dyngedfennol, fe ddywedodd ymosodwr Cymru Elise Hughes y byddai cyrraedd Cwpan y Byd yn gwireddu uchelgais gydol oes.
Ond fe ychwanegodd bod y ffocws yn parhau ar ail gymal y gemau ail gyfle yn erbyn Albania ddydd Mawrth.
"Mae gan y grŵp yma gyfle i wneud hynny nawr, a dyna'r peth pwysicaf i'r grŵp yma," meddai.
"Ond i wneud hynny, mae'n rhaid i ni ennill y gêm ddydd Mawrth. Dyma'r gêm bwysicaf hyd yma, oherwydd dyma'r nesaf."
Mae rheolwr Cymru Rhian Wilkinson wedi cydnabod y bydd yn rhaid i'w thîm wneud gwelliannau yn dilyn y gêm gyntaf.
"Fe wnaethon ni ddal ati. Doedd o ddim y perfformiad gorau gennym ni, ond ar yr un pryd, rydyn ni wedi dysgu sut i ennill ar ddiwrnodau anodd," meddai.
Mae Albania yn 68 yn rhestr detholion y byd, 37 safle yn is na Chymru.