Heddlu'n canfod corff wrth chwilio am fenyw 60 oed aeth ar goll

Stryd yn Aberhonddu, Gwisg Heddlu

Mae'r heddlu wedi dod i hyd i gorff wrth chwilio am fenyw 60 oed o Bowys oedd ar goll.

Cafodd y fenyw, Nicola, o Aberhonddu ei gweld ddiwethaf ger gorsaf betrol yn y dref ychydig cyn 18:00 brynhawn Sadwrn.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys apêl y noson honno, gan holi'r cyhoedd a oedd unrhyw wedi gweld y fenyw oedd ar goll o'i chartref.

Brynhawn Sul, dywedodd y llu y "gallwn gadarnhau bod corff wedi ei ganfod wrth chwilio am Nicola".

Ychwanegodd bod ei hanwyliaid wedi cael gwybod a bod "ein meddyliau gyda nhw yn y cyfnod hwn".

Cafodd Nicola ei disgrifio yn yr apêl gwreiddiol fel menyw â thaldra o 6 troedfedd 2 fodfedd gyda gwallt llwyd.

"Credwn ei bod yn gwisgo siaced werdd a siôl frown oddi tani, a jîns denim," meddai'r llu.

"Mae ganddi fynediad at Fiat Panda glas... ac fe gafodd ei gweld ddiwethaf yn ardal gorsaf betrol Morrisons yn Aberhonddu am tua 17:49 (Sadwrn 10fed) yn anelu tuag at Gylchfan Brynich."

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.