‘Mae o wedi ein llorio ni’: Dyfodol pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr yn y fantol
‘Mae o wedi ein llorio ni’: Dyfodol pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr yn y fantol
Gall Newyddion S4C ddatgelu y bydd Cyngor Sir Gâr yn trafod ymgynghoriad ar gynllun posib i gau pedair ysgol gynradd arall ymhen dyddiau.
Fe fydd dogfennau ymgynghori ar gau ysgolion Blaenau yn Llandybie, ac Ysgolion Bancffosfelen, Pontiets a Charwe yng Nghwm Gwendraeth yn cael eu trafod gan Bwyllgor Craffu Addysg y Sir ddydd Mawrth.
Yr opsiwn sydd wedi'i ffafrio gan swyddogion yw i gau'r pedair ysgol, er na fydd yna benderfyniad am beth amser eto.
Os ydy'r cynghorwyr yn cefnogi'r argymhellion, fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr, ac mi allai'r pedair ysgol gau ar 31 Rhagfyr 2027.
Fe fydd y pwyllgor craffu yn cwrdd ddiwrnod yn unig cyn bod y cyngor llawn yn cwrdd i drafod penderfyniad terfynol ar gau ysgolion Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn.
Mae Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith wedi disgrifio'r newyddion allai tair o ysgolion gau yn ardal Cwm Gwendraeth fel y "bygythiad mwyaf i'r cymunedau Cymraeg hyn yng Nghwm Gwendraeth ers streic y glowyr" yn y 1980au.
"Bydden ni yn dweud mai dyma'r effaith gwaethaf ers dyddiau Thatcher ar ein cymunedau ni," meddai.
"Mae'n ymosodiad ar ein cymunedau ni. Ar ôl y pedair yma, bydd yna 15 o rai eraill lan i gael eu cau hefyd."
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor sir bod rhaid sicrhau "bod y ddarpariaeth addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy, yn effeithiol ac yn diwallu anghenion dysgwyr cenedlaethau'r dyfodol".
'Siomedig ofnadwy'
Ym mis Ionawr 2026, roedd yna 3,500 o lefydd gwag ar draws 94 o ysgolion. Mi allai’r diffyg ariannol i ysgolion y sir gyrraedd bron i £16m.
Mae yna ddicter mawr wedi bod o fewn y cymunedau ble mae ysgolion o bosib yn wynebu'r fwyell.
Dywedodd Elin Cullen, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Pontiets, wrth Newyddion S4C ei bod hi'n "siomedig ofnadwy" gyda'r newyddion er mai dim ond 20 o ddisgyblion sydd ar ôl.
Mae hi'n dweud bod yr ysgol wedi wynebu cyfnod o ansicrwydd "am dros flwyddyn" a bod niferoedd wedi gostwng wrth i rieni symud eu plant.
"Mae Anna Brychan yn dweud ei bod hi am gefnogi a datblygu yr iaith Gymraeg yn y cymunedau hyn a nawr maen nhw yn cau ysgolion," meddai.
"A dyma'r lle gorau i ddatblygu iaith. Fi'n credu bod e'n mynd i gael effaith ofnadwy ar y Cwm."
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor sir bod yr ysgolion wedi eu clustnodi ar sail nifer isel y disgyblion, nifer fawr o lefydd gwag, diffygion yn y gyllideb neu rhagolwg o ddiffyg o fewn y flwyddyn ariannol "gan arwain at sefyllfa ariannol anghynaladwy."
Doedd y cyngor sir ddim am wneud cyfweliad cyn y cyfarfod ddydd Mawrth.
Mewn datganiad, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Glynog Davies bod rhaid ystyried "sut mae ein hysgolion wedi'u trefnu" wrth wynebu heriau fel llai o ddisgyblion a "sefyllfaoedd ariannol anghynaladwy."
Bu'n rhaid cau adeilad Ysgol Carwe ym mis Medi 2025 ar fyr rybudd oherwydd problemau gyda'r adeilad, ac fe symudwyd y disgyblion i Ysgol Gwynfryn ym Mhontiets.
Yn ôl Sioned Lewis, sydd yn rhiant ac yn llywodraethwr ar Ffederasiwn Gwynfryn, Carwe a Phonthenri, mae'r penderfyniad yn "codi teimladau cryf mewn pobl" ac maen nhw yn "grac ac mae'n siom".
"Mae'r posibilrwydd bod Cyngor Sir Gâr yn mynd i gynnig cau Ysgol Carwe wedi dod fel sioc enfawr i ni gyd yr wythnos hon, yn enwedig ar ôl addewid o swm sylweddol o arian i wella'r ysgol oherwydd y diffygion adeiladol," meddai.
"Mae'n teimlo bod yr adeilad yn mynd i ddirywio heb ysgolion cefn gwlad, beth sydd yn digwydd i gymunedau lleol a'r Gymraeg?
"Ni'n cymryd e'n bersonol bron. Pam ysgolion bach ni sydd yn gorfod cau. Mae'r cyngor wedi addo'r arian. I ble mae'r arian yna yn mynd i fynd nawr dwedwch os nad yw nhw yn mynd i drwsio Ysgol Carwe?"
Yr un yw'r dicter yn ardal Bancffosfelen. Mae yna 48 o ddisgyblion yn ysgol y pentref ar hyn o bryd.
Mae Aled Davies yn llywodraethwr yn yr ysgol.
"Mae o wedi ein llorio ni ac ein taro ni fel syndod," meddai.
"Dyw'r darlun sydd yn cael ei roi o Ysgol Bancffosfelen yn yr adroddiad sydd yn cael ei gyflwyno ddim yn ddarlun ni'n adnabod.
"'Da ni fel llywodraethwyr yn nabod yr ysgol yn dda iawn. Mae hi'n ysgol sydd yn llwyddo i ddarparu addysg o safon ardderchog yng nghalon y gymuned ym Mancffosfelen.
"Mae yna nifer o bethau sydd yn anghyson ac yn wallus yn yr adroddiad a 'da ni'n galw ar yr awdurdod i ddal yn ôl nes bod ganddyn nhw ddarlun cywir, cyn ystyried ei dyfodol."
Mae Ysgol Blaenau yn Llandybie hefyd dan fygythiad.
Yn ôl adroddiad y cyngor sir, mae yna 28 o ddisgyblion, ond mae gan yr ysgol ddiffyg ariannol £287,857 sydd yn debygol o godi i £362,556 yn 2026/27.
Yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Craffu, bydd cynigion y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael eu cyflwyno i gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin.