Gorchymyn i ddynes o Nefyn dalu £12,000 yn ôl am dwyllo cwsmeriaid bregus
Mae dynes o Nefyn a dreuliodd bum mis yn y carchar eleni am dwyllo cwsmeriaid cymdeithas adeiladu yng Nghaernarfon wedi cael gorchymyn i dalu dros £12,000 yn ôl.
Cafodd Kelly Kershaw, 54 oed, ddedfryd o 16 mis o garchar fis Mai eleni ar ôl pledio’n euog i dwyllo cwsmeriaid tra’n gweithio ym manc Nationwide yn y dref rhwng 2023 a 2024.
Mae Kershaw bellach wedi ei rhyddhau o’r carchar, a ddydd Iau fe wnaeth ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon dros linc fideo mewn gwrandawiad Enillion Troseddau.
Dywedodd wrth y barnwr Nicola Jones ei bod bellach mewn gwaith.
Fe wnaeth y barnwr rhoi gorchymyn iddi hi dalu £12,630 o fewn tri mis, oni bai bod angen fwy o amser arni.
Yn ystod y gwrandawiad byr, dywedodd Ms Nicola Jones: “Rwy’n falch i weld bod adferiad yn gweithio i ti. Rwyt ti yn ôl mewn gwaith, da iawn.”
Fe fydd dedfryd o bum mlynedd o garchar yn cael ei orchymyn os nad ydy'r swm yn cael ei dalu'n llawn.
'Twyllo'n barhaus'
Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod Kershaw wedi defnyddio arian oedd yn berchen i gwsmeriaid bregus er mwyn mynd ar wyliau tramor.
Roedd negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol dros y cyfnod yn dangos Kershaw yn ymweld â Pharis, yr Eidal, Groeg, Mecisco, y Maldives, Indonesia, Dubai, Norwy a lleoliadau eraill. Roedd hefyd yn gyrru car BMW gyda phlât cofrestru personol.
Fe wnaeth Nationwide gynnal ymchwiliad mewnol ar ôl i aelodau staff sylwi ei bod yn mynd ar wyliau drud.
Daeth ymchwiliad y gymdeithas adeiladu i'r casgliad fod pump o gwsmeriaid yn ddioddefwyr yn yr achos, a bod £8,600 wedi'i ddwyn oddi wrthyn nhw.
Roedd y cwsmeriaid gafodd eu twyllo yn cynnwys dioddefwr strôc 85 oed, dyn 49 oed ag anawsterau dysgu, a thri phensiynwr.
Wrth ei dedfrydu, dywedodd y barnwr bod Kershaw wedi “twyllo’n barhaus a thorri ymddiriedaeth cwsmeriaid bregus.”
