Cadarnhau y bydd Tyson Fury ac Anthony Joshua yn bocsio yn oriau mân y bore
Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau y bydd gornest Tyson Fury ac Anthony Joshua yn Stadiwm Principality yn digwydd yn oriau mân y bore.
Bydd y frwydr, sy’n un o’r mwyaf yn hanes bocsio ym Mhrydain, yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 11 Rhagfyr.
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu bod disgwyl i’r bocswyr ddechrau cerdded i’r cylch tua 01.00, ar ôl perfformiad cerddorol byw byr. Bydd y stadiwm yn aros ar agor tan 03.30.
Er mwyn cael y caniatâd angenrheidiol, mae Millennium Stadium Plc wedi gwneud cais i’r cyngor i ymestyn yr oriau agor “ar yr un achlysur penodol hwn”.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Pwrpas hyn yw galluogi’r frwydr arfaethedig rhwng Anthony Joshua a Tyson Fury i gael ei chynnal, gyda’r bocswyr yn dechrau cerdded i’r cylch am 01.00.”
Mae’r cais i newid y drwydded hefyd yn gofyn am ymestyn yr oriau ar gyfer cerddoriaeth fyw ar yr un dyddiad. Byddai hynny’n caniatáu perfformiad byw byr yn union cyn i’r bocswyr gerdded i’r cylch.
Mae hefyd yn cynnig ymestyn yr oriau ar gyfer cerddoriaeth wedi’i recordio, gweini lluniaeth yn hwyr y nos a chyflenwi alcohol tan 03.00, gyda’r stadiwm yn cau am 03.30.
Ychwanegodd yr ymgeiswyr y bydd y to ar gau drwy gydol y digwyddiad ac y bydd trefniadau diogelwch a stiwardio ychwanegol ar waith.
Mae’n rhaid hysbysebu cais i newid trwydded safle am 28 diwrnod yn olynol, gan gynnwys drwy arddangos hysbysiad yn y safle neu arno.
Mae gan aelodau’r cyhoedd ac awdurdodau eraill tan 3 Tachwedd i wrthwynebu cais Stadiwm Principality neu gyflwyno sylw o blaid.
Os na fydd unrhyw sylwadau perthnasol yn dod i law, bydd yn rhaid i’r cyngor ganiatáu’r cais.
Os bydd gwrthwynebiadau, bydd y cyngor yn cynnal gwrandawiad i’w hystyried.
Gallai hynny arwain at newidiadau i amodau’r drwydded, neu gallai’r cais gael ei wrthod yn gyfan gwbl.
‘Bythgofiadwy’
Ar ôl i’r frwydr gael ei chyhoeddi fis diwethaf, dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Chris Weaver: “Mae gan y frwydr yn Stadiwm Principality y potensial i ddod â manteision economaidd sylweddol i’r ddinas a denu ymwelwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt.
“Mae digwyddiadau mawr yn rhoi hwb i fusnesau lleol, yn cefnogi swyddi ac yn dangos Caerdydd i gynulleidfa fyd-eang.
“Mae rhai trefniadau i’w cwblhau o hyd gyda’r trefnwyr, gan gynnwys unrhyw newidiadau angenrheidiol i drwydded Stadiwm Principality.
“Ond rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr i’r ddinas ar gyfer noson o focsio sy’n argoeli i fod yn fythgofiadwy.”
