Cwest: Dyn 20 oed wedi boddi mewn llyn ger yr Wyddfa

Llyn Glaslyn

Mae cwest wedi clywed bod dyn 20 oed o Lundain wedi marw ar ôl boddi mewn llyn yn Eryri ym mis Medi.

Bu farw Mahammed Naim Islam, a oedd yn fyfyriwr, yn Llyn Glaslyn ger Yr Wyddfa.

Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd uwch grwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Mr Islam a’i frawd wedi cerdded i Lyn Glaslyn ar ddydd Sadwrn 26 Medi.

Dywedodd fod Mr Islam wedi mynd i mewn i’r dŵr yno lle’r oedd "wedi mynd i drafferthion".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r lleoliad, ac fe gafodd corff Mr Islam ei ddarganfod gan Dîm Chwilio Tanddwr ar ddydd Sul 27 Medi.

Dywedodd y crwner Ms Robertson fod patholegydd wedi nodi achos dros dro y farwolaeth, sef boddi.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach i’r farwolaeth.

‘Dyn ifanc arbennig’

Wrth roi teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd teulu Mr Islam ei fod yn “ddyn ifanc arbennig gyda dyfodol disglair o'i flaen”. 

“Roedd yn fab ymroddedig, yn frawd cariadus ac yn ffrind annwyl, ac fe wnaeth ei garedigrwydd a’i gymeriad gyffwrdd â bywydau pawb oedd yn ei adnabod,” meddai ei deulu.

“Mae ei farwolaeth wedi torri calonnau ei deulu, ei ffrindiau a’r gymuned ehangach.

“Bydd yn cael ei gofio am y llawenydd a ddaeth i fywydau eraill, yr atgofion a greodd, a’r effaith gadarnhaol a gafodd ar fywydau’r rhai a oedd yn ddigon ffodus i’w adnabod.

“Bydd Mahammed yn cael ei golli’n fawr a’i gofio’n annwyl gan bawb a oedd yn ei adnabod.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.