RAF Fairford: Seithfed dyn wedi'i arestio gan Heddlu Gwrth-Derfysgaeth
Roedd chwech arall eisoes wedi eu harestio a'u rhyddau ar fechnïaeth, ar ô i faniau amheus gael eu gweld ger canolfan yr awyrlu ar 27 Medi.
Dywedodd cydlynydd ar ran yr Heddlu Gwrth-Derfysgaeth, Vicki Evans: “Mae hwn yn dal i fod yn ymchwiliad byw ac mae ein timau arbenigol yn parhau i fwrw golwg ar sawl ongl yn yr ymchwiliad.
“Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth i ni fwrw golwg ar yr ymchwiliad hynod o gymhleth hwn.”
Roedd RAF Fairford yn cael ei defnyddio gan yr Americanwyr, ond daeth cadarnhad ddydd Sul bod ryw ddwsin o awyrennau B-1 wedi eu symud o Brydain.
Ond dyw hi ddim yn gwbl glir pam bod yr Americanwyr wedi gadael.
Yn ôl Arlywydd America, Donald Trump, penderfynodd Awyrlu'r Unol Daleithiau symud eu hawyrennau bomio oddi yno oherwydd "bygythiadau’ i’r safle."
Dyw Llywodraeth y DU ddim wedi gwneud sylw ynghylch penderfyniad yr Americanwyr.
Ond mae llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street yn mynnu bod safle RAF Fairford yn ddiogel.
Roedd Mr Trump wedi canmol ymateb “heddlu a gwasanaethau amddiffyn a diogelwch” y Deyrnas Unedig mewn sylwadau yr wythnos diwethaf.
Ond wrth siarad â’r wasg ddydd Llun, dywedodd fod y penderfyniad i symud yr awyrennau wedi’i wneud ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau o “gerbydau amheus” yn agos i’r safle mewn digwyddiad o bwys ar 27 Medi.
Gofynnodd newyddiadurwr i Mr Trump yn Nebraska ai “bygythiad penodol” oedd wedi arwain at benderfyniad awyrlu’r wlad.
“Ie, dwi’n meddwl gallwn ni ddweud hynny," meddai. "Nid ar hap a damwain y gadawodd yr awyrennau.
“Roedd yna rai bygythiadau. Ac yn hytrach na themtio’r gelyn, fe wnawn ni ddal y gelyn a churo’r gelyn.
"Ond pham ddylwn ni eu gadael yno? Felly fe wnaethon ni eu symud ychydig. Ddim yn rhy bell.”
Ychwanegodd bod Washington “yn adnabod y bobl a wnaeth y bygythiad,” ond gwrthododd gadarnhau pwy yn union oedd yn gyfrifol, yn ei farn e.
