Miloedd o gwsmeriaid cwmni ffasiwn ASOS wedi derbyn neges hacio
Mae miloedd o gwsmeriaid ASOS wedi derbyn rhybudd ar eu ffonau symudol yn dweud bod y cwmni ffasiwn wedi cael ei hacio.
Fore Mawrth, cafodd cwsmeriaid neges gan yr ap yn nodi “Asos hacked”, oedd yn eu cyfeirio at gyfrif Telegram.
Mae'r cwmni wedi ymateb gan ddweud nad ydynt yn credu bod manylion talu na chyfrineiriau wedi'u datgelu.
Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi drwy Gyfnewidfa Stoc Llundain, dywedodd y cwmni:"Gall ASOS gadarnhau am oddeutu 10am heddiw, bod hysbysiad heb ei awdurdodi wedi'i anfon at gwsmeriaid ASOS.
"Rydym yn ymchwilio i'r gweithgarwch oedd yn ymwneud â'r llwyfannau trydydd parti rydym yn eu defnyddio i gyfathrebu gyda'n cwsmeriaid.
"Fe wnaethom ni gymryd camau ar unwaith i gyfyngu mynediad at y llwyfannau hysbysiadau, ac rydym wrthi'n gweithio gyda'n harbenigwyr mewnol ac allanol, a'r awdurdodau perthnasol." meddai'r datganiad.
"Mae'n bosib fod gwybodaeth bersonol sylfaenol, fel enwau a manylion cyswllt, wedi eu rhyddhau.
"Dydyn ni ddim yn credu bod gwybodaeth cardiau talu na chyfrineiriau cyfrifon wedi eu datgelu."
Mae pris cyfranddaliadau’r cwmni wedi gostwng mwy na 10% fore Mawrth o ganlyniad i’r newyddion.
Mae’r hacio honedig yn ymwneud â’r cwmni Snowflake, sy’n storio data ar gyfer nifer o gwmnïau mawr.
Mae gan ASOS, sydd yn berchen ar frandiau gan gynnwys Topshop a Miss Selfridge, 17 miliwn o gwsmeriaid ledled y byd.
Ar hyn o bryd mae'r cwmni yn ceisio newid y ffordd y mae'n gweithredu mewn ymgais i atal gostyngiad mewn gwerthiant, a dychwelyd i wneud elw.
Daw'r achos diweddaraf, wedi i nifer o gwmniau Prydeinig gael eu targedu mewn ymosodiadau seibr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, Marks & Spencer a Harrods yn eu plith.
Ychwanegodd yn y datganiad fod y wefan a'r ap yn gweithredu fel yr arfer, heb "unrhyw darfu ar hyn o bryd" ar unrhyw ran o'u gweithrediadau.
"Mae ymddiriedaeth cwsmeriaid yn hynod bwysig i ni, ac os bydd y sefyllfa’n newid, byddwn yn darparu diweddariad fel y bo’n briodol.
“Mae gan y cwmni yswiriant seiberddiogelwch gyda darparwr byd-eang mawr, gan gynnwys yswiriant parhad busnes. Mae’n rhy gynnar i fesur unrhyw effaith bosibl ar fasnachu.”

