Tad Elfyn Evans: 'Siom' na fydd Rali GB yn dychwelyd i Gymru yn fuan
Tad Elfyn Evans: 'Siom' na fydd Rali GB yn dychwelyd i Gymru yn fuan
Ddeuddydd ers i Elfyn Evans gael ei goroni'n bencampwr rali'r byd, mae ei dad Gwyndaf Evans, wedi dweud ei fod e, tra'n dathlu llwyddiant ei fab, yn siomedig na fydd Cymru yn gartef i Rali GB yn y dyfodol agos.
Ar ôl dod yn ail bum gwaith, cipiodd Elfyn y bencampwriaeth yn Rali Sardinia, yn yr Eidal brynhawn Sul, wedi'r diweddglo mwyaf dramatig.
Wedi diwrnod o gyffro a'r bwlch rhwng Evans ac Oliver Solberg yn lleihau, fe aeth car y gyrrwr o Sweden oddi ar y cwrs ar gymal olaf un y tymor, o fewn eiliadau o'r llinell derfyn.
Evans o Ddinas Mawddwy yn ne Gwynedd yw'r Cymro cyntaf i gipio'r teitl.
Ar ôl cefnogi ei fab yn Sardinia, mae Gwyndaf Evans sy'n gyn-bencampwr rali Prydain wedi dychwelyd adref.
A'r gred yw fod Elfyn hefyd nôl yn ei filltir sgwâr.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Gwyndaf Evans ei fod yn gobeithio y bydd llwyddiant ei fab yn hwb i'r gamp yng Nghymru.
Ond pwysleisiodd fod gwaith i'w wneud er mwyn cyflawni hynny:
'Colled aruthrol'
"Ni 'di colli y Wales Rally GB a 'dw i'n meddwl bod hynna 'di bod yn golled aruthrol i ralïo achos, pob gwlad arall ei di, mae Elfyn i'w weld yn lot fwy poblogedd, os ti'n gwybod be 'dw i'n feddwl .
"Os aiff e i unrhywun o'r gwledydd Scandinavian, neu unrhyw le dramor, ma' nhw'n cal o ar y teledu.
"Ma gynnon nhw rownd eu hunain, a ma' 'na lot o bethe da yn digwydd yn y sport, a mae o yn dod yn ôl yn fwy poblogaidd.
"De ni wedi colli y Rali Cymru a ma hwnna wedi ffiltro nôl yn negatif, ond ma' 'na obaith i'r dyfodol," meddai.
Bydd Pencampwriaeth Rali'r byd yn dychwelyd i'r Brydain y flwyddyn nesa, ond nid i Gymru.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2107183894923501815?s=20
Yr Alban fydd yn rhoi llwyfan iddi bryd hynny.
Yn ôl y sylwebydd ralïo Mark James, mae'n drueni na fydd yn dychwelyd i Gymru:
"O'n i lan yn yr Alban yn gweithio ar y rali eleni fydd yn troi mewn i rali Scotland, sef rownd y bencampwriaeth flwyddyn nesa," meddai.
"Ma' shwt gymaint o gyrff, ma rhaid iddyn nhw brynu mewn i'r holl bethe a ma'r cyngor, mae'r holl ddinas - Aberdeen wedi prynu mewn i'r holl beth.
"Ac yn anffodus... fyswn i 'di fod wedi licio fe'n dod nôl i Gymru, i'r fforestydd traddodiadol yng Nghymru, ond 'dw i'n meddwl fydd yr Alban yn 'neud jobyn da."
'Gwreiddiau dwfn'
Wrth ymateb i sylwadau Gwyndaf Evans, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth bod modd edrych ar ddenu Rali GB yn ôl eto i Gymru:
"Mae ralïo yn gamp sydd â gwreiddiau dwfn nid yn unig yn Ninas Mawddwy ond ar draws Cymru, ac mi odd Elfyn yn seren yn barod yn y cylchoedd hynny, ond ydy, mae o rŵan yn un o fawrion chwaraeon Cymru, a dyna pam 'den ni mor falch ohono fo."
"Ma' rali mor boblogaidd yng Nghymru, ma' Rali Ceredigion wedi dod yn bobolgaidd tu hwnt fel rhan o'r gystadleuaeth Ewropeaidd.
"Os oes 'na achos busnes yn cael ei 'neud i ddod â Rali WRC yn ôl i Gymru, allwn ni edrych ar hynny wrth gwrs ond y peth pwysig ydy bod ganddo ni rŵan rywun sydd yn gennad dros ralïo yng Nghymru, sydd â gwreiddie mor ddyfn yng nghefn gwlad yn enwedig.
"Ond mae enw Elfyn ym mhob dinas a thref a phentre', yn mynd i fod yn adnabyddus fel pencampwr y byd o'r diwedd."