Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl darganfod corff wedi tân mewn fan
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 38 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych nos Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lôn Gas Works tua 23:30 ar ôl adroddiad bod fan ar dân ac i gorff gael ei ddarganfod y tu mewn.
Dyw hi ddim yn glir eto pwy yw'r person sydd wedi marw, yn ôl Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley: “Mae ein hymchwiliad yn dal yn ei gamau cynnar, ac nid ydym eto wedi adnabod y person a fu farw.
“Bydd ein hymholiadau’n parhau dros y dyddiau nesaf, a bydd presenoldeb cynyddol gan yr heddlu yn yr ardal.”
Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Chris Bell: “Mae swyddogion yn gweithio’n gyflym i ddarganfod pwy yw’r unigolyn.
“Unwaith y byddwn yn gwybod pwy yw’r unigolyn, bydd swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn cael eu neilltuo i gefnogi’r teulu cyn gynted â phosibl.
“Rydyn ni’n deall y gallai’r digwyddiad hwn beri pryder yn y gymuned leol, ac rydw i am roi sicrwydd i’r cyhoedd fod presenoldeb amlwg gan yr heddlu yn yr ardal.
“Byddwn yn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Lôn Gas Works ym Mhrestatyn rhwng 22:45 a 23:45 ddoe, ac a welodd neu a glywodd unrhyw beth anarferol, i gysylltu â ni.”
Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy eu sgwrs fyw ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 26000816112.
