Arbenigwyr am edrych eto ar sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu mewn ysgolion
Bydd panel annibynnol yn edrych ar sut i roi canllawiau cliriach i ysgolion am yr hyn y dylai disgyblion ei ddysgu am hanes Cymru.
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, wedi penodi chwe arbenigwr i adolygu rhannau o’r Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y panel yn canolbwyntio ar hanes, gyda phwyslais ar hanes Cymru, ac ar addysg wleidyddol.
Bydd yn defnyddio’r ddau faes i weld sut y gallai’r llywodraeth wneud y canllawiau’n gliriach i athrawon ar draws y cwricwlwm.
Yn gynharach eleni, fe ysgrifennodd grŵp o haneswyr ac academyddion at y gweinidog i leisio pryder am y ffordd y mae ysgolion yn addysgu hanes Cymru.
Yn ôl eu llythyr, roedd “tystiolaeth yn awgrymu bod gormod o ddisgyblion yng Nghymru yn gadael addysg gyda dim ond dealltwriaeth gyfyngedig o hanes eu gwlad eu hunain".
Yn y Senedd ddydd Mawrth, gofynnodd Lynne Neagle o’r Blaid Lafur, cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, pam roedd y llywodraeth wedi dewis hanes Cymru ac addysg wleidyddol ar gyfer yr adolygiad.
Gan gyfeirio at adroddiad blynyddol Estyn, dywedodd fod yr arolygwyr wedi “tynnu sylw at bryderon am ba mor fanwl roedd pobl ifanc yn astudio’r dyniaethau”.
Gofynnodd am sicrwydd “nad blaenoriaethau gwleidyddol sy’n llywio hyn, oherwydd mae ymrwymiad sylweddol eisoes i hanes Cymru yn y cwricwlwm, gan gynnwys yn y cymwysterau TGAU”.
'Ansicrwydd'
Wrth ymateb, dywedodd Anna Brychan fod y llywodraeth yn adolygu “meysydd roedden ni wedi addo edrych arnyn nhw yn ein maniffesto, sy’n egluro’r pwyslais penodol hwnnw”.
Dywedodd fod llawer o athrawon yn gweld gwerth yn y cwricwlwm, ond bod “yr ansicrwydd ynghylch rhai o’r disgwyliadau yn achosi cryn straen a llwyth gwaith.
“Bydd hwn yn batrwm y gallwn ni wedyn ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o’r cwricwlwm,” meddai.
Mae pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed yng Nghymru bellach yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru, a gafodd ei gyflwyno gyntaf yn 2022.
Wrth gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd Anna Brychan ei bod am wneud profiadau disgyblion yn fwy cyson a lleihau llwyth gwaith diangen i athrawon.
“Pan ddylid gwneud pethau'n gyson, bydd y panel yn dweud hynny,” meddai.
“Pan fo cyfle i arloesi a defnyddio mwy ar farn broffesiynol, bydd y panel hefyd yn gwneud hyn yn glir.”
Bydd aelodau’r panel yn ymweld ag ysgolion ac yn siarad ag athrawon a disgyblion cyn cyflwyno eu hadroddiad i’r gweinidog yn nhymor yr haf 2027.