Gwahardd arweinydd y Blaid Werdd rhag mynd i Israel

Zack Polanski

Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr, Zack Polanski, wedi cael ei wahardd rhag mynd i Israel.

Daw hyn ar ôl i aelodau’r blaid bleidleisio o blaid diffinio Seioniaeth (Zionism) fel math o hiliaeth.

Wnaeth Mr Polanski, sydd yn Iddewig, ddim cymryd rhan yn y bleidlais ar y cynnig. Roedd wedi gadael cynhadledd y blaid ar ôl ei araith ddydd Gwener i ymgyrchu yn isetholiad Holborn a St Pancras.

Fe wnaeth Israel gyhuddo’r Blaid Werdd o gyfiawnhau “dinistrio Gwladwriaeth Israel” gyda “thestun sy’n amlwg yn wrthsemitig”.

Dywedodd Gweinyddiaeth Materion Tramor Israel fod cynnig y Gwyrddion yn eu cynhadledd “yn destun amlwg wrthsemitig yn ôl diffiniad yr IHRA, gan ei fod yn gwadu hawl y bobl Iddewig i hunanbenderfyniad”.

“Felly, fel cam cyntaf, mae’r gweinidog tramor Gideon Sa’ar wedi penderfynu heno i wahardd arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, rhag mynd i Israel,” meddai’r datganiad.

Mewn datganiad ar y cyd ag ASau’r Blaid Werdd a’i ddirprwyon, dywedodd Mr Polanski nad oes “unrhyw wrthdaro rhwng cefnogi hawliau Palestiniaid a hawliau pobl Iddewig”.

Y cynnig

Fe wnaeth aelodau yn Brighton gefnogi’r cynnig gyda 1,022 o bleidleisiau o blaid ac 813 yn erbyn.

Roedd y cynnig yn datgan bod y Gwyrddion yn “blaid wrth-Seionaidd”. Roedd hefyd yn pennu fel polisi’r blaid y bydd Seioniaeth, y mudiad i ddatblygu a diogelu gwladwriaeth Iddewig yn Israel, yn cael ei “thrin fel unrhyw fath arall o hiliaeth”.

Mae hefyd yn cefnogi sefydlu “un Wladwriaeth Balesteinaidd ddemocrataidd ar draws holl diriogaeth hanesyddol Palestina, gyda Jerwsalem yn brifddinas iddi”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd na fydd y cynnig yn cael “effaith sylweddol ar drefniadau llywodraethu na gweithdrefnau disgyblu”.

“Mae hon wedi bod yn drafodaeth ddifrifol sydd wedi ennyn teimladau cryf ymhlith ein haelodau. Mae ein haelodau’n gwerthfawrogi’r gallu i gyflwyno a phenderfynu ar bolisi’r blaid, ac mae’r gynhadledd bellach wedi gwneud ei phenderfyniad.

“Mae’r Blaid Werdd yn blaid wrth-hiliol ac mae wedi gwrthwynebu’n gyson y meddiant anghyfreithlon o dir ym Mhalestina a Syria. Mae wedi galw am roi’r gorau i werthu arfau i lywodraeth Israel ac wedi siarad yn ddi-ofn am y sefyllfa drychinebus yn Gaza a’r Lan Orllewinol.

“Mae’r safbwyntiau hynny’n parhau’n ganolog i’n gwaith. Felly hefyd ein hymrwymiad cadarn i gydraddoldeb, cyfiawnder a hawliau dynol i bawb, ac i wrthwynebu pob math o hiliaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.