Corff babi ar lan y Fenai: Heddlu'n apelio wrth 'chwilio'n helaeth' am fam y plentyn

Cordon Heddlu ym Mangor

Mae’r heddlu wedi apelio o’r newydd am wybodaeth wrth iddyn nhw barhau i "chwilio'n helaeth" am fam baban newydd-anedig gafodd ei ganfod yn farw ar lannau’r Fenai.

Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd fod corff wedi ei ddarganfod ger Ffordd Siliwen ym Mangor ychydig cyn 17:00 dydd Sul.

Ers hynny, mae’r bwrdd iechyd lleol a’r heddlu wedi apelio ar y fam i gysylltu â’r awdurdodau, gan rybuddio y gallai fod mewn sefyllfa fregus.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd nos Fercher eu bod yn parhau i “chwilio’n eang” am y fam ac yn “gweithio’n agos ac yn gyflym gyda phartneriaid” i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd.

“Ein prif bryder o hyd yw iechyd a lles y fam,” meddai’r Uwcharolygydd Llinos Davies.

“Fy neges iddi yw nad oes rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun. Cysylltwch â ni a cheisiwch y cymorth y gallai fod ei angen arnoch. Mae yna bobl yn barod i’ch helpu.”

Dywedodd yr Uwcharolygydd wrth y cyhoedd fod yr heddlu’n “ddiolchgar am y gefnogaeth a’r cymorth” wedi’r digwyddiad fu’n “sioc i’r gymuned.”

“Rwy’n parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am fenyw neu ferch rydych chi’n meddwl y gallai fod wedi bod yn feichiog neu y mae ei hymddygiad wedi bod yn anarferol neu’n groes i’w chymeriad dros y misoedd diwethaf i gysylltu â ni,” meddai.

Image
Bangor. Heddlu ger y Fenai

Fe ychwanegodd yr heddlu y bydd swyddogion yn parhau i fod yn bresennol yn ardal Bangor dros y dyddiau nesaf, gyda rhwystrau yn parhau yn eu lle er mwyn caniatáu i swyddogion gyflawni eu dyletswyddau.

Archwiliad post-mortem

Roedd disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal ar gorff y baban brynhawn Mercher wedi i swyddfa’r crwner dderbyn cadarnhad o’r farwolaeth.

Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu 'Operation Melex’.

Mae posib hefyd ffonio llinell gymorth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar 03000 851 234 rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i dydd Gwener.

Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth y bwrdd, fod ganddi “bryderon gwirioneddol am iechyd y fam.”

“Rydym yn cydnabod ei bod hi’n debygol o fod yn hynod agored i niwed,” meddai. “Efallai ei bod hi’n ofni ceisio’r gefnogaeth sydd ei hangen arni rhag ofn y bydd hi’n datgelu pwy ydy hi".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.