Galw am ail flaenoriaethu pwy sy’n derbyn tai cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig

Newyddion S4C

Galw am ail flaenoriaethu pwy sy’n derbyn tai cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig

Mae angen ailflaenoriaethu pwy sy’n derbyn tai cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig, yn ôl ymgyrchwyr ym Mhen Llŷn.

Mae trigolion yn Aberdaron yn poeni am stad newydd o dai ar gyrion y pentref am fod chwech ohonyn nhw yn dai rhent cymdeithasol.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae hynny’n golygu nad yw pobl leol ifanc sy’n siarad Cymraeg o reidrwydd yn cael blaenoriaeth bob tro.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod 97% o dai tebyg yn mynd i aelwydydd sydd â chysylltiad lleol â Gwynedd, a bod gan 60% gysylltiad â’r gymuned lle maen nhw’n cael cartref.

Mae chwech o gartrefi’r stad ar Lôn Deunant yn gartrefi rhent cymdeithasol a dau arall yn gartrefi rhent canolradd.

Ond mae’r cyngor cymuned lleol yn dweud bod nifer o bobl ifanc yn yr ardal wedi’u siomi gan gredu na fydden nhw’n gymwys i dderbyn tŷ ar y stad. Mae hynny am fod polisi Cyngor Gwynedd, sy’n seiliedig ar gyfraith gwlad, yn blaenoriaethu pobl a all fod mewn sefyllfa fregus.

“Mi oedd o’n swnio’n grêt ar y cychwyn,” meddai Gareth Williams, y cynghorydd sir dros Ben Draw Llŷn.

“Stad o dai fforddiadwy yma yn Aberdaron, ond erbyn rŵan mae’r tai wedi eu codi a 'da ni’n gwybod fod chwech allan o’r wyth tŷ yn mynd i fod yn dai rhent cymdeithasol a dim amod lleol, dim amod ieithyddol a’r cwestiwn felly ydi be ydi lleol?

“Yn llygaid Cyngor Gwynedd dyna oedd y tai i fod, i bobl leol ar gyfer yr argyfwng da ni’n ei wynebu.

“Ond rŵan mae’r teuluoedd lleol sy’n aros am dŷ, sy’n desperate yn cael gwybod fydde nhw ddim yn gymwys.”

Image
Tai Aberdaron
Tai newydd yn cael eu hadeiladu yn Aberdaron

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r Polisi Gosod Tai Cyffredin yn blaenoriaethu’r rhai sydd â’r angen mwyaf am dai yng Ngwynedd. Mae’r cyngor yn dweud ei fod wedi “mynd hyd eithaf” ei allu i sicrhau bod y polisi yn rhoi blaenoriaeth i deuluoedd ac unigolion lleol.

Deunaw mis yn ôl, fe wnaeth Manon Llŷn Williams, 26 oed, symud yn ôl i fyw yn Aberdaron o Groesoswallt.

Ers rhai misoedd mae hi wedi bod yn chwilio am gartref yn yr ardal, ond mae’n dweud bod y prisiau y tu hwnt i’w chyrraedd er gwaethaf ei hymdrechion i arbed.

“Dydi prisiau ym Mhen Llŷn ddim o fewn cyrraedd i bobl oed fi,” meddai.

“Dwi’n gweithio’n llawn amser a fues i dros yr haf yn chwilio ac i gael morgais ac mae’n lot o bwysau, yn enwedig os da chi chwilio ar eich pen eich hun.

“Ma’n ofnadwy o anodd, os nad amhosib.”

Mae Manon yn dweud ei bod wedi mynd i ddiwrnod agored i ystyried a fyddai un o’r wyth tŷ newydd yn opsiwn. Ond ar ôl trafod efo’r gymdeithas dai a gweld pwy oedd yn cael blaenoriaeth, roedd hi’n teimlo na fyddai “ganddi gyfle”.

“Mae 'na bedwar band a fel oedda nhw’n mynd drwy’r bandiau oedd fy nghalon i jest yn suddo bach mwy a mwy... oedd o’n disappointing,” meddai.

Image
Aberdaron
Yr olygfa wrth gyrraedd Aberdaron

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae amryw o ffactorau yn gwneud rhywun yn gymwys i gael cartref, ond mae cyfraith gwlad yn rhoi blaenoriaeth i rai:

  • Pobl sy’n byw mewn tai sydd heb gyfleusterau glanweithiol neu sydd yn orlawn;
  • Pobl sydd angen symud am resymau meddygol neu resymau sy’n ymwneud â’u lles;
  • Pobl sydd angen symud ardal oherwydd y gallai peidio â symud achosi caledi.

Mae ymchwil gan y cyngor yn dangos bod 65% o bobl yng Ngwynedd wedi’u prisio allan o’r farchnad leol. Mae’r sefyllfa’n debygol o fod yn waeth mewn ardaloedd gwledig a phoblogaidd.

“Mae gennym ni gynllun gweithredu tai a’n polisi gosod tai cymdeithasol,” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson, deilydd y portffolio dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd.

“Mae hynny’n helpu sicrhau fod pobl yn gallu aros yn yr ardal a drwy hynny helpu cadw’r iaith Gymraeg yn fyw.”

Ar gyfartaledd, mae 97% o dai cymdeithasol yn cael eu gosod i aelwydydd â chysylltiad lleol â Gwynedd, a thua 60% i aelwydydd sydd â chysylltiad â’r gymuned lle maen nhw’n dymuno byw, meddai Cyngor Gwynedd.

Er bod Manon yn dweud ei bod yn deall yr angen i flaenoriaethu pobl sy’n fregus, mae hi’n dweud bod pobl ifanc fel hi yn cael eu gwasgu ac yn talu’r pris.

“Dwi’n 26 rŵan a dwi’n gobeithio fydd gen i dŷ erbyn fy mod i’n 30,” meddai.

Mae’n dweud nad yw’r sefyllfa’n un deg.

“Dwi’n gweithio’n galed, mae pawb arall yn gweithio’n galed a da ni gyd yn rhoi yn ôl i’n cymunedau ni,” meddai.

“Da ni’n haeddu byw ‘ma a joio byw ‘ma fel pawb arall.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.