‘Pryder mawr’ am swyddi yn un o ffatrioedd Greggs yng Nghymru
Mae gwleidyddion lleol wedi dweud eu bod nhw’n “hynod o bryderus” y bydd swyddi yn cael eu colli mewn ffatri Greggs yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd pennaeth Greggs ddydd Mercher y bydd tua 740 o swyddi yn mynd ledled y DU er mwyn helpu i “ddiogelu dyfodol” y busnes.
Mae'r cwmni'n bwriadu cau ei safleoedd gweithgynhyrchu yn Pettigrews yn Kelso yn yr Alban, Enfield yn Llundain, safle North Lakes ger Penrith yn Cumbria, a Seaham yn Sir Durham.
Bydd y cynigion yn effeithio ar y gwaith cynhyrchu ar safle Greggs yn Nhrefforest, er y bydd y safle yn parhau i fod yn ganolfan ddosbarthu i’r busnes.
Dywedodd AS Pontypridd, Alex Davies-Jones bod y cynlluniau yn “rhoi swyddi lleol mewn perygl”.
“Fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd yw’r gweithwyr a’r teuluoedd a fydd, yn ddealladwy, yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd ar ôl y cyhoeddiad hwn,” meddai.
Dywedodd ei bod wedi cysylltu â Greggs i ofyn am gyfarfod brys ac i holi pa opsiynau sy’n cael eu hystyried i ddiogelu swyddi’n lleol.
“Rwyf hefyd yn ceisio trafod ar frys â’r undebau llafur sy’n cynrychioli’r gweithwyr sy’n cael eu heffeithio,” meddai.
Dywedodd yr Aelodau o’r Senedd dros Blaid Cymru Heledd Fychan, Lis Mclean a Sara Crowley AS mewn datganiad eu bod nhw’n “hynod bryderus o glywed y newyddion”.
“Mae Greggs wedi bod yn gyflogwr pwysig yn Nhrefforest ers blynyddoedd lawer, ac mae’r swyddi lleol hyn yn swyddi o safon sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled y rhanbarth,” meddai'r gwleidyddion.
‘Byd modern’
Dywedodd prif weithredwr Greggs, Roisin Currie, ddydd Mercher fod angen i’r grŵp weithio’n fwy effeithlon er mwyn helpu i gynnig gwerth am arian i’w cwsmeriaid.
“Byddwn yn parhau i fod y gorau yn ein maes o ran y cynhyrchion rydyn ni’n eu cyflenwi a’u cynhyrchu,” meddai.
“Os ydyn ni eisiau bod yn effeithlon, bydd angen i ni edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud o bryd i’w gilydd.
“Rydyn ni’n credu bod gwneud hyn yn ein paratoi ar gyfer y dyfodol mewn byd modern.”
Bydd y newidiadau’n costio tua £60 miliwn i’r cwmni. Mae hynny’n cynnwys costau tarfu ar y busnes a thaliadau colli swyddi.
Ond dywedodd y cwmni y bydd y cynlluniau’n arbed tua £20 miliwn iddo dros flynyddoedd ariannol 2028 a 2029.
Dywedodd y bydd yn dechrau ymgynghori’n fuan â’r gweithwyr sy’n cael eu heffeithio a’u cynrychiolwyr undebol.
Ond pwysleisiodd nad oes “unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud”.