RAF Fairford: Dim ffrwydron mewn faniau

RAF Fairford

Doedd dim ffrwydron mewn faniau a gafodd eu darganfod yng nghanolfan RAF Fairford yn Sir Gaerloyw dros y Sul, yn ôl yr heddlu. 

Ymatebodd Heddlu Gwrth Derfysgaeth yn ystod oriau mân fore Sul i honiadau fod cynllwyn terfysgol ar waith. 

Cafodd pump o ddynion eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth, ar ôl i heddlu arfog atal tair fan oedd yn teithio tuag at RAF Fairford - canolfan yr awyrlu sy'n cael eu defnyddio gan yr Americanwyr. 

Ddydd Llun, cafodd y dynion eu rhyddhau ar fechnïaeth, a dywedodd yr Heddlu Gwrth Derfysgaeth eu bod yn dal i annog y cyhoedd i fod ar eu gwyliadwraeth. 

Mewn datblygiad pellach nos Fawrth, cyhoeddodd yr heddlu bod petrol wedi ei ddarganfod yn y faniau, ond doedd dim dyfeisiadau ffrwydrol yno.  

Mae dwsinau o bobl sy'n byw ger y ganolfan, a gafodd orchymyn i adael eu cartrefi fore Sul, bellach yn dychwelyd i fywyd arferol. 

Petrol

Wrth gyhoeddi diweddariad ddydd Mawrth, dywedodd Comisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu Gwrth Derfysgaeth, Laurence Taylor: "Gallwn gadarnhau nad oedd dyfeisiadau ffrwydrol yno. Er hynny, cafodd tipyn o betrol ei ddarganfod.

"Ddoe, fe wnaethom ryddhau pum o ddynion ar fechnïaeth yr heddlu. Maen nhw yn dal i fod yn destun ymchwiliad, ac o dan amodau llym wrth i ni barhau â'n gwaith. 

"Diogelwch y cyhoedd yw'r flaenoriaeth wrth i ni gynnal ymchwiliad, a dyna yn wir oedd y sefyllfa ddoe.  

"Rwy'n deall pam fod y datblygiad hwn yn syndod i nifer, ond mae'n un sydd wedi ei wreiddio gan brofiad ac ystyriaeth ofalus o safbwynt grymoedd yr heddlu."

Mae disgwyl i'r holl ffyrdd o amgylch y ganolfan ail agor ddydd Mercher, ac mae'r gwaith o archwilio carterfi'r dynion yn Llundain wedi ei gwblhau.

Dynion Prydeinig gafodd eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth, sef dyn 24 oed o Camden, gogledd Llundain; tri dyn 23, 24 a 25 oed o Westminster, canol Llundain; a dyn 24 oed o Willesden, gogledd-orllewin Llundain.

Dyw'r heddlu ddim wedi cadarnhau pryd y bydd angen iddyn nhw ddychwelyd i orsaf yr heddlu.  

Ymateb America

Fore Mawrth, fe ymatebodd Ysgrifennydd Gwladol America, Marco Rubio i'r digwyddiad yn RAF Fairford, gan ddweud fod yr hyn ddigwydodd yn dangos  "dylanwad tramor."

Mewn cyfweliad teledu, cyfeiriodd Mr Rubio at Iran, gan nodi eu bod wedi bygwth ymosod ar fuddiannau'r Unol Daleithiau, ond ni wnaeth gyhuddo'r wlad yn uniongyrchol o fod yn gyfrifol am y digwyddiad dros y penwythnos.

Mae Tehran wedi gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad.

Disgrifiodd Mr Rubio y digwyddiad fel "sefyllfa ddifrifol iawn" gan ddiolch i'r awdurdodau ym Mhrydain am eu hymateb.

Dywedodd hefyd fod "llawer o bobl yn bryderus" yn dilyn rhyddhau pump o bobl ar fechnïaeth.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.