Man City yn euog o bob cyhuddiad o dorri rheolau ariannol y gynghrair

man City

Mae Uwch Gynghrair Lloegr wedi cadarnhau bod Manchester City wedi eu cael yn euog o bob cyhuddiad o dorri rheolau ariannol y gynghrair rhwng 2009-10 a 2017-18.

Fe wnaeth comisiwn annibynnol ganfod bod y clwb wedi trefnu “contractau ffug” gyda nifer o’i bartneriaid masnachol yn ystod y cyfnod hwnnw. 

Roedd hefyd wedi “dibynnu ar gytundebau ffug i gynyddu incwm y clwb yn artiffisial a lleihau ei gostau”.

Roedd y datganiad hefyd yn dweud bod City yn euog o’r rhan fwyaf o’r cyhuddiadau yn ymwneud â methiant y clwb i gydweithredu. Ni chafodd union nifer y cyhuddiadau eu nodi.

'Syndod'

Wrth ymateb i benderfyniad yr Uwch Gynghrair, fe ddywedodd y clwb pêl-droed eu bod yn "siomedig" ac yn "synnu" at farn Comisiwn yr Uwch Gynghrair:

"Mae'r Clwb yn ddieuog o'r cyhuddiadau a wnaed gan yr Uwch Gynghrair. 
 
"Felly, bydd y Clwb yn benderfynol ac yn rhagweithiol lle bo angen, ym mhob fforwm rheoleiddiol a chyfreithiol priodol" meddai'r datganiad.
 
Bydd Manchester City FC yn dilyn y llwybrau apelio ar sail bod y dyfarniad yn cynnwys "camgymeriadau materol clir", o ran y "gyfraith, egwyddorion a ffeithiau" meddai'r neges.
 
Ychwanegodd: "Mae'r Clwb yn amlwg wedi'i gyfyngu o ran yr hyn y gall ei ddweud ymhellach, hyd nes bod yr holl achosion yn y dyfodol wedi'u cwblhau."
 
Proses 'hir ac anodd'
 

Dywedodd Richard Masters, Prif Weithredwr Uwch Gynghrair Lloegr iddo fod yn broses "hir ac anodd".

“Yr achos disgyblu hwn, a’r penderfyniad hwn, yw’r rhai mwyaf arwyddocaol yn hanes Uwch Gynghrair Lloegr," meddai.

"Mae elfennau o’r achos sydd eto i’w penderfynu, gan gynnwys y cwestiwn pwysig o ba gosb sy’n rhaid ei rhoi am dorri’r rheolau. 

"Nawr bod penderfyniad y comisiwn gennym, rydym wedi ymrwymo i symud yn gyflym drwy weddill y broses, i roi sicrwydd i’r gynghrair, ein clybiau a’n cefnogwyr.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.