Mudiad iaith yn cyhuddo'r BBC o 'anwybyddu anghenion cynulleidfa Radio Cymru'
Mae mudiad iaith wedi cyhuddo penaethiaid BBC Cymru o "anwybyddu anghenion cynulleidfa draddodiadol Radio Cymru" yn dilyn y cyhoeddiad fod BBC Cymru i gael gwared â thua 45 o swyddi a dod â nifer o raglenni radio poblogaidd i ben.
Mae'r gorfforaeth yn gorfod gwneud y toriadau mewn cyfnod ariannol heriol iawn.
Cyhoeddodd y BBC ym mis Mehefin y camau cyntaf yn eu cynlluniau i sicrhau arbedion o £500 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2027/28, gyda £9 miliwn o arbedion yng Nghymru.
Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf fe dorrodd Newyddion S4C y newyddion fod rhaglenni Dros Ginio, Dros Frecwast ar ddydd Sadwrn, ac Ar y Marc ar Radio Cymru yn dod i ben.
'Argyfwng o doriadau'
Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi dweud fod angen "cyfundrefn newydd i reoli a chyllido’r cyfryngau yng Nghymru", gyda darlledu Cymraeg yn wynebu "argyfwng o doriadau".
Dywedodd y mudiad mewn datganiad ddydd Llun ei bod yn "gwbl annerbyniol mai nifer o raglenni pwysicaf y gwasanaeth sy’n cael eu dileu yn sgîl y toriadau o £9 miliwn sy’n cael eu gorfodi ar y gorfforaeth yng Nghymru."
Dywedodd Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad ymgyrchu: "Pam mai’r rhaglenni sy’n trafod newyddion a chwaraeon y dydd sy’n diflannu?
"Dyma graidd y gwasanaeth sy’n rhoi cyfle i’r gynulleidfa Gymraeg geisio deall beth sy’n digwydd ym mhob agwedd o fywyd Cymru a thu hwnt.
"Dyma hefyd sail gwasanaeth darlledu cyhoeddus a grëwyd gyda'r bwriad o hysbysu, addysgu a difyrru’ gynulleidfa. Mae dibrisio’r hysbysu ac addysgu wrth ddileu rhaglenni trafod newyddion a chwaraeon y dydd yn tanseilio holl fodolaeth y gorfforaeth a'r cyfiawnhad dros godi trwydded i gyflwyno gwasanaeth o’r fath.
"Gyda chyfran cynyddol uwch o’r oriau darlledu Cymraeg yn cael eu neilltuo i ddifyrru yn unig, mae’n anodd cyfiawnhau honiad y BBC o fod yn wasanaeth cenedlaethol llawn."
Ychwanegodd y mudiad nad yw'n credu mai Llywodraeth San Steffan a’r BBC yn Llundain ddylai fod yn gyfrifol "am dynged darlledu yng Nghymru sydd ynghlwm â ffi’r drwydded flynyddol."
"Mae’r toriadau diweddar yng nghyllideb y BBC a’i effaith andwyol ar ddarlledu Cymraeg yn golygu fod angen i Gymru edrych o’r newydd ar sut y dylid rheoli cyfryngau cyhoeddus ein gwlad."
Deiseb
O ganlyniad i gyhoeddiadau'r BBC, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi deiseb gan alw o'r newydd am ddatganoli darlledu i Gymru.
Dywedodd Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r cyhoeddiad y bydd BBC Cymru yn dod â rhaglenni Dros Ginio a Dros Frecwast ar fore Sadwrn ar Radio Cymru i ben yn warthus.
"Os aiff y toriadau diweddaraf hyn yn eu blaenau, bydd y Gymraeg yn colli rhagor o dir ar y tonfeddi.
"Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith bod ein cyfryngau Cymraeg yn cael eu rheoli gan swyddogion anetholedig y BBC yn Llundain a gan wleidyddion gwlad arall", meddai.
Doedd gan BBC Cymru ddim sylw i'w wneud am yr hyn y mae Dyfodol i'r Iaith a Chymdeithas yr Iaith wedi ei ddweud.
Cafodd Newyddion S4C eu cyfeirio at ddatganiad y gorfforaeth a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau diwethaf yn nodi'r newidiadau i BBC Cymru.
Mae’r datganiad hwnnw yn nodi bod y newidiadau "yn gam pwysig tuag at fodloni targed arbedion BBC Cymru, tra'n sicrhau ei hymrwymiad i newyddiaduraeth y gellir ymddiried ynddi, cynnwys Cymreig nodedig a gwasanaethau digidol."