Pris disel yn uwch nag erioed o’r blaen
Mae pris disel yn y DU yn uwch nag erioed o’r blaen, gan fynd heibio’r record flaenorol a osodwyd ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin yn 2022.
Pris cyfartalog litr o ddisel ddydd Llun oedd 199.18c, yn ôl ffigurau gan yr RAC.
Mae hynny 56.8c yn ddrytach nag ar ddechrau’r rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran ar 28 Chwefror eleni. Bryd hynny, pris cyfartalog litr oedd 142.38c.
Y record flaenorol oedd 199.09c, ym mis Mehefin 2022.
199.2c oedd y pris cyfartalog yng Nghymru ddydd Llun, yn ôl data gwefan Fuel Map UK, gyda phris mor uchel â 219c mewn un orsaf gwasanaeth ar yr M4.
Mae’r rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran yn parhau i darfu ar y fasnach fyd-eang mewn olew wedi’i buro a chynhyrchion petrolewm eraill.
Yn y cyfamser, mae allforion disel o Rwsia wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i Wcráin dargedu nifer o burfeydd olew’r wlad.
'Ergyd i yrwyr'
Mae cost petrol di-blwm hefyd wedi bod yn codi dros yr wythnosau diwethaf.
Y pris cyfartalog ar hyn o bryd yw 174.13c y litr, cynnydd o 41.3c ers dechrau’r rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran.
Dywedodd pennaeth polisi’r RAC, Simon Williams: “Mae pris cyfartalog litr o ddisel bellach wedi cyrraedd y lefel uchaf yn hanes y DU.
“Bydd hyn yn ergyd ariannol i aelwydydd a busnesau sy’n defnyddio eu cerbydau’n rheolaidd.
“Mae cost llenwi tanc car teulu cyffredin bellach bron yn £110, £31 yn fwy nag ar ddechrau’r gwrthdaro rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran.
“Bydd hyn yn ergyd i yrwyr wrth lenwi eu tanciau, ac i bawb sy’n prynu nwyddau neu wasanaethau sy’n dibynnu ar lorïau a faniau disel.
“Heb os, bydd y costau uwch hyn yn cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr.
“Dim ond os bydd pris olew yn aros yn is am sawl wythnos, nid diwrnodau, y bydd prisiau wrth y pympiau’n gostwng.”
Mae data’r RAC yn seiliedig ar bris cyfartalog disel mewn amrywiaeth o archfarchnadoedd, gorsafoedd gwasanaeth ar draffyrdd, a manwerthwyr annibynnol.
