Dros 2,000 yng Nghasnewydd i Ŵyl Groeso Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen

Cannoedd wedi ymgynnull ar gyfer yr adloniant, Hundreds gathered for the entertainment.jpg
Roedd dros 2,000 o bobl ar strydoedd Casnewydd ddydd Sadwrn i orymdeithio ar gyfer Gŵyl Groeso Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027. 
 
Dyma'r cam cyntaf wrth i’r rhanbarth baratoi i groesawu’r Ŵyl i’r ddinas am y tro cyntaf.
 
Roedd y dathliadau’n cynnwys gorymdaith fywiog o Sgwâr John Frost tuag at Theatr Glanyrafon gyda jambori a pherfformiadau byw gan Martyn Geraint a Mei Gwynedd yn rhan o’r adloniant.
 
Roedd 55 o ysgolion Gwent yn rhan o'r Ŵyl Groeso, gyda'r digwyddiad yn rhan o ymdrechion gwirfoddolwyr lleol i annog mwy o bobl ifanc yr ardal i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
 
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Roedd hi’n hynod braf gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Groeso. Mae’n amlwg bod cyffro mawr o amgylch Eisteddfod Bro’r Wenynen yn barod.
 
“Mae croeso mawr i bawb yn Eisteddfod yr Urdd, ac mae cynnal ein prifwyl yng Nghasnewydd yn gyfle gwych i ddod â’n diwylliant at sylw cynulleidfaoedd newydd.
 
“Diolch i bawb ddaeth i gefnogi ac i wirfoddoli heddiw, ac i'r Pwyllgor Gwaith am drefnu'r diwrnod. Edrychwn ymlaen yn fawr at Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen, a chofiwch gysylltu os hoffech wirfoddoli neu gefnogi ar hyd y daith.”
 
Ychwanegodd Efa Maher, Cadeirydd Ifanc y Pwyllgor Gwaith: “Mae’n destun balchder i ni ar y Pwyllgor Gwaith i weld cymaint o ieuenctid ein hardal yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen.
 
"Mae’r Urdd yn cynnig profiadau anhygoel i blant a phobl ifanc drwy’r Gymraeg, a dwi’n un sydd wedi elwa cymaint o’r mudiad fy hun. Mae mor bwysig bod Eisteddfod yr Urdd yn dod i ardaloedd fel Casnewydd, i ni gael dangos yr holl gyfleoedd sydd ar gael drwy’r Gymraeg ar ein stepen drws.”
 
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd rhwng dydd Sadwrn, 29 Mai a dydd Gwener, 4 o Fehefin 2027.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.