Newyddion S4C

'Symud staff' wedi marwolaeth claf mewn uned iechyd meddwl

Newyddion S4C 20/09/2021

'Symud staff' wedi marwolaeth claf mewn uned iechyd meddwl

Yn dilyn ymchwiliad diweddar gan raglen Newyddion S4C oedd yn datgelu fod dau glaf wedi marw ar ôl crogi ar unedau iechyd meddwl yn y gogledd, mae cwestiynau pellach wedi codi am y ffordd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ymateb i'r digwyddiadau.

Mae llythyr dienw wedi dod i law yn mynegi pryderon ar ôl i ddau reolwr gael eu symud o’u swyddi yn dilyn yr ail farwolaeth ar uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, sydd dan ofal y bwrdd iechyd. 

Dywedodd yr unigolyn yn y llythyr dienw fod na "ddiywlliant gwenwynig yn yr adran ac mae angen ei adolygu.

"Mae'n cael ei rhedeg gan gyfarwyddwyr dros dro sydd ond wedi gweithio'n Lloegr a ddim yn deall system Cymru. Dydi'r adran ddim yn teimlo'n ddiogel ac ma'r rheini oedd efo'r profiad a'r dealltwriaeth i gadw'r adran i fynd wedi gorfod gadael eu swyddi. Plis all yr adran gael y sefydlogrwydd mae'n ei haeddu."

Mewn ymateb i’r llythyr hwn, fe ysgrifennodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead, at gorff Arolgyiaeth Iechyd Cymru yn cadarnhau bod staff wedi eu symud o’u swyddi.

Roedd pennaeth gweithrediadau’r gorllewin wedi ei “atal” o’i swydd, meddai, tra bod pennaeth nyrsio’r gorllewin wedi ei “symud i waith gwahanol”. Fe nododd hi hefyd bod arweinyddiaeth wedi ei “gryfhau” ar yr uned tra bod “staff wedi cael cynnig cefnogaeth” lles.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, Rhun ap Iorwerth AS: “Rhaid mynd i’r afael â’r sgandalau parhaus ar frys, ac mae fy nghalon yn mynd allan i’r holl deuluoedd y mae’r trychinebau hyn yn parhau i effeithio arnynt. Rhaid gofyn cwestiynau sut y llwyddodd Betsi Cadwaladr i ddod allan o fesurau arbennig pan fo problemau difrifol o fewn unedau iechyd meddwl yn amlwg yn parhau.

“Mae aelodau’r staff wedi dweud wrthyf yn y dyddiau diwethaf nad yw problemau tanfuddsoddi a thanariannu wedi cael sylw o hyd. Digon yw digon. Mae trefniadau yr arweinyddiaeth wedi’u hamlygu unwaith eto fel gwendid – gan y staff yr wyf wedi bod yn siarad â hwy, a’r llythyr gan y Prif Weithredwr.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am fynd i’r afael â’r materion hirhoedlog a dwfn hyn. Os na chymerir camau pendant, bydd y penodau trasig hyn yn parhau, gan adael rhestr gynyddol o deuluoedd mewn profedigaeth gyda chwestiynau heb eu hateb.”

Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd y Prif Weithredwr Jo Whitehead bod y bwrdd yn “cydymdeimlo efo teuluoedd y ddau glaf fu farw yn ddiweddar”. 

“Mae yna ymchwiliad annibynnol,” meddai.

“A fydd hi ddim yn briodol gwneud sylw ar hyn o bryd.”

Mewn ymateb i sefyllfa'r staff, dywedodd y byddwn nhw’n “gael eu talu a’u trin yn deg, yn unol â’r polisïau.”

Ychwanegodd: “Rydym yn annog staff i godi pryderon ‘efo ni, ac rydym yn hyderus y bydd yr ymchwiliad annibynnol yn rhoi’r ffeithiau a’r argymhellion gwrthrychol i ni.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ar ôl i’r Mesurau Arbennig gael eu codi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn destun Ymyriad wedi'i Dargedu.

"Mae gwelliannau wedi eu gwneud, ond mae pedwar maes allweddol, gan gynnwys iechyd meddwl - sydd yn gofyn am weithredu sylweddol ar ran y sefydliad, ac mae lefel o oruchwyliaeth barhaus gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'r rhain.

“Rydym wedi ymrwymo £82m arall y flwyddyn dros dair blynedd a hanner i gefnogi’r bwrdd iechyd wrth iddo ddechrau ar gyfnod newydd o dan Ymyriad wedi'i Dargedu wrth i'r bwrdd barhau â’r gwaith i wella.

"Fe fydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cael ei ddefnyddio i wella gofal anhrefnedig, adeiladu gofal cynlluniedig cynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, a darparu gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.