Dechrau'r gwaith o atgyweirio adeilad marchnad Caerdydd
Fe fydd y cam cyntaf yn y gwaith o atgyweirio Marchnad Caerdydd yn dechrau ddiwedd mis Medi, gyda gwaith i do gwydr eiconig yr adeilad yn cael ei gynnal.
Bydd gwaith hanfodol yn cael ei wneud i do'r farchnad Fictoraidd yn ystod y cam cyntaf, a bydd paneli solar newydd hefyd yn cael eu gosod yno.
Cafodd y farchnad boblogaidd ei hagor ym 1891 ac mae'n gartref i nifer fawr o fasnachwyr annibynnol sy'n croesawu ymwelwyr o bob cwr o'r ddinas a thu hwnt.
Bydd masnachwyr yn parhau i weithio trwy gydol cyfnod adfer y to, gyda'r gwaith yn digwydd mewn gofod fydd wedi ei gau yn acwstig ac wedi’i selio rhag llwch i leihau tarfu.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Leo Thomson o Gyngor Caerdydd: "Ar ôl gwasanaethu trigolion ac ymwelwyr am fwy na 130 mlynedd, mae Marchnad Caerdydd yn un o asedau treftadaeth pwysicaf y ddinas ac yn rhan bwysig o'i hunaniaeth.
"Mae trwsio'r to gwydr hanesyddol yn gam cyntaf pwysig a fydd yn helpu i gadw cymeriad unigryw'r farchnad, mynd i'r afael â materion cynnal a chadw hanfodol, a chyda ychwanegu paneli solar, helpu i wella ei chynaliadwyedd hirdymor."
Mae disgwyl i'r cam cyntaf gymryd tua 12 mis i'w gwblhau ac ar ôl hynny bydd yr ail gam yn dechrau.
Bydd gwaith hefyd yn digwydd i'r ffenestri, y goleuadau a'r systemau trydanol yn ystod y cam cyntaf.
Bydd y toiledau ar y llawr gwaelod hefyd yn cael eu hadnewyddu'n llawn a bydd atgyweirio gwaith cerrig a phlwm i ffasâd Heol y Drindod hefyd yn cael ei gwblhau.