Leisa Gwenllian ar restr Seren y Dyfodol cylchgrawn Screen International

Effi

Mae'r actores Leisa Gwenllian wedi ei chynnwys ar restr Seren y Dyfodol gan gylchgrawn ffilmiau Screen International.

Cafodd glod am ei pherfformiad trawiadol fel Effi, prif gymeriad y ffilm Effi o Blaenau, yn gynharach eleni.

Mae'r enwau ar restr Seren y Dyfodol yn derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith arbennig ymysg actorion Prydain ac Iwerddon.

Mae'r ffilm wedi torri'r record am y ffilm fwyaf poblogaidd yn Gymraeg yn y sinemáu ers cael ei rhyddhau yn ystod yr haf.

Mae Effi o Blaenau, sy'n addasiad o Iphigenia in Splott, drama ddirdynol Gary Owen, wedi’i lleoli yn Eryri. 

Wedi’i chyfarwyddo gan Marc Evans a’i chynhyrchu gan Branwen Cennard yn ei ffilm nodwedd gyntaf, mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc sy'n byw mewn tref sydd wedi'i tharo'n galed gan golli diwydiant a chyfleoedd. 

Wrth i'w bywyd gymryd tro annisgwyl, mae'r stori'n edrych ar effaith tlodi a gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau.

Daeth llwyddiant cynnar yng ngyrfa actio Leisa Gwenllian wrth iddi chwarae rhan y cymeriad Bethany Summer rhwng 2014 a 2015 yn y gyfres deledu Rocket's Island.

Mae'n wyneb cyfarwydd i gynulleidfa S4C gan iddi actio yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd am gyfnod hefyd.

Cafodd gyfle i actio yn ddiweddarach yn y ffilm On the Sea (2025), a'r gyfres ddrama Y Golau:Dŵr (2025).

Chwaraeodd ran y forwyn Clara yn y ffolm Madfabulous yn gynharach eleni.

Hi oedd y cymeriad Kath Bevan yn nrama Sky Atlantic Under Salt Marsh gyda Kelly Reilly a Rafe Spall hefyd y flwyddyn hon.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.