Dyn ifanc o Langollen gafodd ei anafu mewn damwain feic yn Tsieina yn gobeithio hedfan adref

Lluniau: Westheads
Westheads - Dyfan Hughes

Mae dyn ifanc o Langollen a gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad wrth seiclo yn Tsieina wedi dweud ei fod yn gobeithio gallu hedfan adref yn fuan ar ôl cael newyddion cadarnhaol am ei adferiad.

Cafodd Dyfan Hughes ei anafu mewn gwrthdrawiad â lori wrth deithio drwy Tsieina fel rhan o daith seiclo elusennol o Langollen i Wlad Thai.

Mewn diweddariad ar gyfrif Instagram y tri, WestHeads, dywedodd Dyfan ei fod ar ei ffordd i gael yr hyn yr oedd yn gobeithio fyddai ei brawf meddygol olaf yn Tsieina.

Dywedodd pe bai’r MRI yn dod yn ôl yn glir, y byddai’r cwmni yswiriant yn gallu bwrw ymlaen â’r trefniadau i’w gael adref, gan obeithio y gallai hynny ddigwydd o fewn wythnos.

Yn ddiweddarach, ar ôl cael y sgan, dywedodd fod llawfeddyg asgwrn cefn wedi dod i’w weld yn yr ysbyty gyda’r “newyddion gorau”.

Dywedodd fod yr MRI wedi dod yn ôl yn glir a bod ei asgwrn cefn bron wedi gwella’n llwyr.

Ychwanegodd nad oes angen llawdriniaeth na sgan arall arno, ac y dylai allu cael hediad adref cyn gynted â phosib.

“Mae’r cyfan yn nwylo’r cwmni yswiriant nawr,” meddai.

“Gobeithio y gallan nhw ein cael ni adref cyn gynted â phosib.”

Image
Dyfan Hughes
Dyfan ar y ffordd i gael ei scan MRI olaf

Mae Dyfan wedi bod yn yr ysbyty yn Tsieina ers tua saith wythnos yn dilyn y ddamwain.

Yn y fideo, dywedodd mai dim ond wrth symud rhwng y ward a’r sganiau yr oedd wedi cael cyfle i fynd y tu allan yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dywedodd fod y tymheredd tua 40 gradd pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty, ac nad oedd wedi sylwi ar y newid yn y tywydd dros yr wythnosau diwethaf nes iddo fynd allan eto.

Taith elusennol

Cychwynnodd Dyfan ar y daith gyda’i ffrindiau James Thomas a Louis Dennis ym mis Awst y llynedd.

Mae’r tri wedi seiclo drwy nifer o wledydd yn Ewrop ac Asia, gan gynnwys Uzbekistan, Tajikistan a Kyrgyzstan, cyn cyrraedd Tsieina ddechrau mis Mehefin.

Maen nhw’n codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.

Mae’r daith wedi cael ei chofnodi ar gyfrifon WestHeads ar Instagram a TikTok.

Image
WestHeads
Mae'r criw wedi bod yn cofnodi bob rhan o'u taith

Cafodd y daith ei gohirio ar ôl damwain Dyfan, gyda’i rieni yn teithio i Tsieina i fod gydag ef yn yr ysbyty.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad i ohirio’r daith, dywedodd y criw eu bod yn bwriadu dychwelyd ati pan fydd hi’n ddiogel i Dyfan feicio eto.

“Peidiwch â meddwl am hyn fel y daith yn cael ei thorri’n fyr - dim ond stori arall fydd ganddon ni i’w hadrodd wrth yr wyrion,” medden nhw ar y pryd.

Dywedon nhw eu bod yn dal yn bwriadu cyrraedd Chiang Mai yng Ngwlad Thai.

Anafiadau

Mewn diweddariad fis diwethaf, dywedodd y criw mai prif bryder meddygol Dyfan oedd ei droed chwith.

Roedd wedi dioddef nifer o doriadau ac esgyrn wedi torri, yn ogystal â niwed difrifol i’r meinwe a’r tendonau.

Dywedon nhw ar y pryd y byddai angen nifer o lawdriniaethau arno i helpu’r droed i wella, ac na fyddai’n gallu cwblhau ei gwrs llawn o driniaeth yn Tsieina.

Roedd disgwyl iddo barhau â’r driniaeth mewn ysbyty yn nes at adref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.