Yr Eglwys yng Nghymru yn oedi cynlluniau priodasau un rhyw
Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn oedi cyn cyflwyno mesur i ganiatáu priodasau yr un rhyw mewn eglwys.
Roedd y mesur i fod i ddod i rym fis Ebrill 2027.
Ond wedi cyfnod o "ryngweithio cadarnhaol, a sgyrsiau yn blwmp ac yn blaen" mae Esgobion wedi cyhoeddi na fydd hynny'n digwydd am y tro.
Cafodd y mesur cyntaf i fendithio priodasau un rhyw neu berthynas sifil ei gymeradwyo gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys fis Ebrill 2026.
Mae adroddiad yr Esgobion i'r Corff Llywodraethol yn nodi: "Fel Esgobion, rydym yn hynod o falch fod y drafodaeth wedi bod yn barchus fis Ebrill.
"Rydym yn gweld rhyddhâd y rhai sy'n teimlo y gall yr eglwys bellach gydnabod y berthynas gariadus, ymrwymiedig rhwng cyplau un rhyw, ac rydym hefyd yn cydnabod y negeseuon rhadlon yr ydym wedi eu derbyn gan y rhai a oedd yn gweld y penderfyniad yn un poenus."
Mae'r Esgobion yn dweud eu bod yn dal wedi ymrwymo i brofi safbwynt y Bwrdd Llywodraethol ar briodasau cyfartal, ond maen nhw'n teimlo bod angen rhagor o amser i asesu'r ffyrdd gorau ymlaen.
Mae'r datganiad yn ychwanegu y bydd cyfarfod y Corff Llywodraethol fis Ebrill 2027 bellach yn cynnwys "trafodaeth am ddysgeidiaeth priodas" gan nodi y bydd hynny o gymorth wrth i'r Eglwys symud i'r cam nesaf.
