Cyhoeddi cynllun brys mewn ymateb i ostyngiad ‘sylweddol’ mewn rhoi organau

Gwasanaeth brys

Mae cynllun ymateb brys wedi’i gyhoeddi i fynd i’r afael â gostyngiad “sylweddol a chyflym” yn nifer y bobl sy’n rhoi organau ac yn cael trawsblaniadau ledled y DU.

Mae cyfraddau rhoi organau gan bobl sydd wedi marw wedi gostwng yn sydyn yn ystod y misoedd diwethaf.

Ar hyn o bryd, maent 9% yn is nag yr oeddent ar yr un adeg y llynedd.

Yn y cyfamser, mae nifer y bobl ar y rhestr aros am drawsblaniad yn y DU yn parhau i gynyddu. Mae mwy nag 8,700 o bobl yn aros am drawsblaniad ar hyn o bryd.

Mae ffigurau newydd sydd wedi’u rhyddhau ddydd Llun yn dangos na chafodd mwy na 700 o achosion posibl o roi organau eu cyflawni yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2026.

Fe ddigwyddodd hyn oherwydd nad oedd teuluoedd yn gwybod yn sicr beth fyddai eu hanwylyd wedi’i ddymuno.

Ar gyfartaledd, mae pob rhoddwr sydd wedi marw yn rhoi tri organ, sy’n golygu bod tua 2,127 o gyfleoedd i gynnal trawsblaniad wedi’u colli.

Dim ond 1% o bobl yn y DU sy’n marw mewn amgylchiadau lle mae rhoi organau’n bosibl. Mae nifer y rhoddwyr cymwys wedi gostwng tua 20% ers 2019/20.

‘Cam syml’

Ar yr un pryd, mae cyfraddau cydsynio teuluoedd wedi gostwng o 67% yn 2020/21 i 57% y llynedd, gan arwain at gannoedd o gyfleoedd coll ar gyfer trawsblaniadau.

Mae teuluoedd yn cefnogi rhoi organau mewn 90% o achosion pan fyddant yn gwybod beth oedd penderfyniad eu hanwylyd, ond mae’r ffigwr hwn yn gostwng i tua 50% pan nad oes penderfyniad hysbys.

Nid oes modd bwrw ymlaen â’r broses heb gefnogaeth y teulu.

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoddion a Thrawsblannu Organau a Meinweoedd Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Rydym yn wynebu un o’r cyfnodau mwyaf heriol o ran rhoi organau ers dros ddegawd. Mae angen gweithredu ar frys oherwydd y gostyngiad sylweddol yn nifer y rhoddwyr a’r nifer cynyddol o bobl sy’n aros am drawsblaniad.

“Rydym eisoes wedi addasu’n sylweddol i newidiadau yn y maes rhoi organau. Ond mae achub bywydau a lleihau’r rhestr aros yn gofyn am ymdrech ar y cyd ar draws y GIG a’r gymdeithas.

“Mae cam syml y gall y cyhoedd ei gymryd i helpu i achub bywydau. Cofrestrwch ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, os gwelwch yn dda.

“Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn derbyn organ pe bai ei angen arnom, ond mae cyfleoedd i achub bywydau yn cael eu colli oherwydd nad oedd teuluoedd yn gwybod beth roedd eu hanwyliaid ei eisiau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.