Llywodraeth y DU am gyflwyno llysoedd arbenigol ar gyfer achosion o dreisio
Mae Andy Burnham wedi cyhoeddi y bydd llysoedd arbenigol i ddelio ag achosion o dreisio a throseddau rhywiol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a Lloegr.
Dywedodd y Prif Weinidog fod hyn yn ymgais i “ailgydbwyso clorian cyfiawnder a rhoi dioddefwyr yn gyntaf”.
“Mae cyfraddau erlyn am dreisio yn parhau i fod yn gywilyddus o isel, gyda llawer o ddioddefwyr yn aros blynyddoedd am gyfiawnder,” meddai.
Bydd o leiaf un ystafell ym mhob un o Lysoedd y Goron wedi’i neilltuo ar gyfer achosion o’r fath o fewn y ddwy flynedd nesaf, meddai swyddogion.
Bydd dioddefwyr yn cael cynnig mynedfa breifat ac ystafell aros breifat er mwyn eu cadw ar wahân i’r diffynnydd.
Mae ganddyn nhw hawl i ofyn am hynny eisoes, ond ar hyn o bryd mae’n dibynnu ar y ddarpariaeth sydd ar gael mewn llysoedd unigol.
Bydd staff llysoedd hefyd yn cael hyfforddiant sy’n ystyried effaith trawma, a bydd un pwynt cyswllt yn cael ei neilltuo i bob goroeswr.
Mae disgwyl i’r pecyn o fesurau gostio tua £23 miliwn, gyda’r arian yn dod o gyllideb y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
O fis Hydref ymlaen, bydd dyddiad pendant hefyd yn cael ei bennu ar gyfer treialon yn hytrach na’u rhoi ar restrau heb ddyddiad sicr.
Dywedodd Mr Burnham: “Dylai’r newidiadau hyn fod wedi digwydd ers talwm, a byddan nhw’n gwneud gwahaniaeth sylweddol, ond fydd canolbwyntio ar erlyniadau yn unig ddim yn ddigon.
“Felly, yn ogystal â sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyfiawnder, byddwn yn dwysáu’r camau i atal y troseddau erchyll hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.”
Mae Rape Crisis England and Wales wedi croesawu’r mesurau fel “cam sylweddol ymlaen i’n system gyfiawnder”.
Dywedodd y prif weithredwr, Ciara Bergman: “Gyda’i gilydd, maen nhw’n adlewyrchu’r angen brys i sicrhau bod llysoedd yn addas i’r diben ac yn diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr yn briodol. Mae hynny’n hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder.”