Newyddion S4C

Tro pedol i gynllun teithiau antur ‘anaddas’ Dŵr Cymru

20/09/2021
Llyn Brenig

Mae Dŵr Cymru wedi dod a chynllun i gynnig teithiau antur mewn cerbyd milwrol o amgylch llyn yn Sir Conwy i ben yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn.

Cafodd dros 700 o sylwadau yn gwrthwynebu’r cynllun eu gadael ar dudalen Facebook Llyn Brenig ddydd Iau, 16 Medi.

Byddai’r teithiau ar gerbyd milwrol Hägglunds wedi cynnig "siwrnai wefreiddiol i ymwelwyr trwy'r coedwigoedd a'r corsydd sy'n amgylchynu'r llyn".

Ond roedd nifer o’r sylwadau yn poeni am effaith y cerbyd ar fywyd gwyllt ac amgylchedd yr ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru wrth Newyddion S4C: “Rydym yn medru cadarnhau na fyddwn yn cynnal teithiau gan ddefnyddio cerbyd ATV ar y safle.”

‘Newyddion arbennig’

Un oedd yn gwrthwynebu'r cynllun oedd y cyflwynydd a’r naturiaethwr Iolo Williams, oedd wedi dadlau fod y cynllun yn un anaddas.

“Bydda’r cynllun ddim yn beth da, mae yna gymaint o bobl yn mynd i’r ardal yna i fwynhau’r tawelwch a’r llonyddwch hefyd, ag i gael y teclynnau yma yn creu sŵn, ac maen nhw yn creu lot o sŵn, dydi o ddim yn beth addas.

“Yn enwedig yn y dyddiau yma pam da ni’n gwybod bod yna argyfwng newid hinsawdd, ac argyfwng bioamrywiaeth, byddai cerbyd o’r fath wedi dinistrio'r tir heb os; maen nhw’n bethau mawr, trwm sy’n cael eu rhedeg gan ddisel.”

Ychwanegodd Mr Williams: “Mae’n newyddion arbennig bod Dŵr Cymru wedi newid ei meddyliau, dwi’n falch ei bod nhw wedi gwrando ar wrthwynebiad yr holl bobl, yn enwedig y bobl leol.

“Cyn belled ag y gwelaf i os bysa’r cynllun wedi mynd yn ei flaen, bysa neb yn ennill. Diolch byth bod nhw wedi rhoi stop ar yr holl beth.

"Dwi’n falch iawn o’r cannoedd o negeseuon sydd wedi’i gadel ar wefannau cymdeithasol yn gwrthwynebu’r ymgyrch yma. Mae Llyn Brenig yn le sy’n bwysig i fywyd gwyllt, i bysgotwyr a hefyd i helpu iechyd meddwl pobol, a dydi rwbath sy’n achosi gymaint o ddinistr a gymaint o sŵn ddim yn gweddu'r ardaloedd yma.”

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Dŵr Cymru bod yr hysbyseb ar wefan a thudalen Facebook Llyn Brenig ddim “yn adlewyrchiad cywir o’r hyn yr oeddem yn bwriadu ei gynnig.

“Rydym wedi gwrando ar adborth lleol ac wedi penderfynu na fyddwn yn cynnig y gweithgaredd hwn.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.