Sarah Cooper-Lesadd AS yn gadael Reform i ymuno â Phlaid Cymru

Sarah Cooper-Lesadd
Sarah Cooper-Lesadd

Mae Aelod o'r Senedd dros Reform UK wedi ymuno â Phlaid Cymru, gan gyhuddo ei chyn-blaid o beidio â bod â "diddordeb" mewn llywodraethu Cymru.

Cyhoeddodd Sarah Cooper-Lesadd, Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont Bro Morgannwg, ddydd Mawrth ei bod wedi gadael Reform UK ac ymuno â Phlaid Cymru a'i grŵp yn y Senedd.

Mae hynny'n golygu bod 44 o 96 o aelodau'r Senedd bellach yn cynrychioli Plaid Cymru.

Daw'r newyddion ar ôl i arweinydd Reform UK yng Nghymru, Dan Thomas, gamu i lawr o'i rôl brynhawn Mawrth.

Dywedodd Ms Cooper-Lesadd, a gafodd ei magu yn y system ofal, ei bod wedi mynd i fyd gwleidyddiaeth i gynrychioli pobl â phrofiad o ofal ac eraill yr oedd hi'n credu eu bod yn cael eu hanwybyddu.

"Nid oes gan Reform ddiddordeb yn y gwaith rwyf wedi dod yma i'w wneud," meddai mewn datganiad.

"Dyw nhw ddim o ddifrif ynglŷn â llywodraethu Cymru. Mae ganddyn nhw lawer mwy o ddiddordeb mewn creu rhaniadau, gwrthwynebu, a phenawdau gwag sydd ddim yn cynnig atebion.

"Mae awydd gwirioneddol yn y grŵp i’r llywodraeth fethu, a dim diddordeb yn yr hyn y byddai'r methiant hwnnw'n ei olygu i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli."

Dywedodd Ms Cooper-Lesadd ei bod eisiau pleidleisio dros y gyllideb atodol a'i bod wedi dadlau yn erbyn cyflwyno'r ddadl Cenedl Noddfa.

"Ni allaf gefnogi ymosodiadau Reform UK ar bobl sy'n ceisio noddfa neu grwpiau bregus eraill," meddai.

"Rwyf hefyd yn gwrthod y ffordd mae lleiafrifoedd wedi cael eu defnyddio yn rhy aml fel targedau gwleidyddol. Nid wyf yn credu y dylai unrhyw un gael eu trin fel hyn er mwyn ennill pleidleisiau, ac ni fyddaf yn rhan o wleidyddiaeth sy'n gwneud hynny."

Ychwanegodd nad oes gan Reform UK "unrhyw ddiddordeb yng Nghymru".

"Mae eu grŵp yn y Senedd yn gam yn eu hymdrech i gael Nigel Farage i mewn i Downing Street, ac roedd hynny'n amlwg yn eu cynhadledd yr wythnos hon," meddai.

"I bawb a phleidleisiodd Reform UK ym mis Mai: nid wyf wedi rhoi'r gorau i wrando arnoch chi.

"Fe ddywedoch chi wrthyf eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich anwybyddu a'ch gadael i lawr.

"Mae'r pryderon hynny'n wirioneddol, a byddant yn cael eu hateb trwy gyflawni, nid drwy greu rhaniadau."

'Myfyrio'

Ychwanegodd Cadeirydd Grŵp Senedd Plaid Cymru, Marc Jones AS: "Nid yw penderfyniad i ganiatáu i aelod groesi'r llawr, yn enwedig o Reform UK, yn cael ei gymryd yn ysgafn. Mae hyn yn dilyn cyfnod o fyfyrio, trafod a phroses fewnol briodol yn unol â chyfansoddiad ein plaid.

"Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser i lawer ohonom fod Sarah yn cael ei hysgogi'n ddiffuant gan awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, yn enwedig i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

"Mae hefyd wedi dod yn amlwg ei bod hi'n anghyfforddus gyda gwleidyddiaeth, rhethreg a gwerthoedd Reform UK.

"Mae hi wedi bod yn onest am ei thaith wleidyddol ac wedi cydnabod ei bod yn anghywir i gredu mai Reform UK oedd y cartref gwleidyddol iawn iddi.

"Mae hi wedi meddwl yn ofalus am ble mae ei gwerthoedd yn ei gosod nawr ac yn gweld ym Mhlaid Cymru blaid sy'n credu yng Nghymru, yn credu yn ei phobl ac sydd o ddifrif am wneud newid cadarnhaol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.